Mae 36 o brosiectau wedi cael eu dewis, sy’n amlygu amrywiaeth o straeon llwyddiant y GIG gan dimau sy'n arwain gwelliannau i ansawdd a diogelwch ac yn trawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl yng Nghymru. Mae prosiectau wedi cael eu cyflwyno ar draws ystod o gategorïau sy'n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.
Bydd paneli beirniadu nawr yn cyfarfod â'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i archwilio eu prosiectau yn fanylach.
Mae digwyddiad dathlu a dysgu newydd wedi'i gynllunio ar gyfer yn ddiweddarach eleni i arddangos cyflawniadau'r holl dimau ar y rhestr fer a rhannu mewnwelediadau gwella o bob cwr o Gymru.