Mae cyfres o adnoddau newydd wedi'u lansio i gefnogi pobl i ddeall a rheoli iechyd eu hymennydd yn well. Mae'r adnoddau newydd sy’n cael eu lansio yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu (15-21 Mehefin), yn anelu at wneud iechyd yr ymennydd yn fwy hygyrch, a thynnu sylw at ei bwysigrwydd, yn enwedig ar gyfer llesiant hirdymor ac ansawdd bywyd.
O heddiw (1 Ebrill 2026) ymlaen, bydd GIG Cymru yn gweithredu newidiadau i'r ffordd yr ymchwilir i bryderon ledled Cymru.
Mae Gwiriad Iechyd Blynyddol yn cael eu cynnig bob blwyddyn gan bractisiau meddygon teulu i unigolion 18 oed a hŷn ag anabledd dysgu.
Mae Melanie Vale a Rachel Thomas, dau uwch weithiwr proffesiynol iechyd galwedigaethol yn GIG Cymru, yn myfyrio ar bŵer arweinyddiaeth ddilys o fewn gwasanaethau anabledd dysgu.
Mae canfyddiadau o brosiect peilot gan GIG Cymru wedi dangos sut y gallai newidiadau wedi'u targedu i Datix Cymru wella'r broses o gofnodi, monitro ac adolygu arferion cyfyngol ar draws lleoliadau gofal y GIG.
Mae Canllawiau a Safonau Cenedlaethol newydd wedi cael eu cyhoeddi i atgyfnerthu rôl hanfodol y Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd+ (HEF+) i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i oedolion ag anabledd dysgu.
Mae pwyllgor newydd sy’n cynnwys arbenigwyr dementia Cyfadran Dementia Cymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr ers iddo gael ei sefydlu fis Awst diwethaf ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i gyflwyno datblygiadau pellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Mae Cyfarwyddiaeth Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Chyfarwyddiaeth Cardiothorasig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhaglen gymorth newydd i sefydlu System Rheoli Ansawdd.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru yn gweithio ar draws timau ac yn cydweithio’n agored i helpu i ddiagnosio canser yn fwy effeithlon i bobl Cymru, gyda chefnogaeth Cydweithredfa Patholeg Gellog Canser Cymru Gyfan.
Blwyddyn i mewn i ffrwd waith i atal dadgyflyru a gafwyd yn yr ysbyty, mae timau ar draws GIG Cymru yn parhau i fod ar flaen y gad o ran ymdrechion i wella canlyniadau a lleihau niwed i gleifion ledled Cymru.
Mae cynhadledd a oedd yn canolbwyntio ar ymchwil wedi cysylltu arbenigwyr dementia o bob cwr o'r DU a thu hwnt am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae ymchwil newydd sy’n archwilio profiadau gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn dangos bod darparu gofal effeithiol ac integredig i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru yn anghyson a bod bylchau mewn integreiddio.
Darganfyddwch enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025; sbarduno gwelliannau i drawsnewid iechyd a gofal yng Nghymru.
Nod yr ehangu yw adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol a gafwyd eisoes mewn lleoliadau anabledd dysgu, lle dangoswyd bod cofnodi arferion cyfyngol yn fanylach yn dod â photensial amlwg i wella tryloywder a’r ffordd y cânt eu monitro a’u deall.
Mae partneriaeth rhwng timau byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn parhau i weithio tuag at leihau cyfraddau cynyddol o heintiau C. diff mewn lleoliadau gofal iechyd.
Bydd y treial tri mis yn archwilio fersiwn ddigidol o'r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd+ (HEF+), mesur canlyniad a ddefnyddir gan ymarferwyr arbenigol mewn gwasanaethau anabledd dysgu.
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi lansio'r mesurau ansawdd cyntaf ar gyfer y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd (QOF).
Mae prosiect peilot newydd ar y gweill i ddeall defnyddio arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd pan fydd cleifion yn profi digwyddiad niweidiol. Y nod yw hyrwyddo dull gofal sy'n seiliedig ar hawliau dynol ac sy'n canolbwyntio ar y person.