Wrth i’n rhaglen Anabledd Dysgu nesáu at ei chwe blynedd a pharatoi i gychwyn ar gyfnod newydd, gadewch i ni edrych yn agosach ar gynnydd ein gwaith o 2019-2025.
Mae’n bleser gennym eich i lansio'r Fframwaith ar gyfer defnyddio Dulliau Anfferyllol o Leihau Arferion Cyfyngol yng Nghymru.
Mae diwedd mis Mawrth yn gyfnod pan fo llawer ohonom ni yn y GIG yn myfyrio ac yn adrodd ar weithgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n amlwg bod camau breision wedi’u cymryd ym maes gofal dementia ledled Cymru.
Ar 26 Mawrth 2025, bydd Gweithrediaeth GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal uwchgynhadledd rithwir Y Ras at Degwch: Hyrwyddo Iechyd a Gofal i Bawb.
Tynnodd y digwyddiad sylw at y cyfraniadau sylweddol a wnaed gan blant a phobl ifanc at gynhyrchu’r cynllun, gan adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed wrth lunio’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.
Roedd dros 40 o AHPs a rhanddeiliaid allweddol yn bresennol yn y digwyddiad a oedd yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran cryfhau llais yr AHPs sy’n gweithio yng ngwasanaethau iechyd a gofal anabledd dysgu.
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi sefydliadau ar draws GIG Cymru i sefydlu Systemau Rheoli Ansawdd (QMS) effeithiol.
Gall seicosis fod yn brofiad anhygoel o ofidus. Mae gwefan newydd yn gobeithio ei gwneud hi'n haws i bobl ddod o hyd i gymorth.
Mae Proffil Iechyd yn ddogfen sy'n eiddo i bobl sydd ag anabledd dysgu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gellir ei ddefnyddio i oresgyn rhwystrau cyfathrebu a helpu staff gofal iechyd i wneud addasiadau rhesymol.
Mae cyfres o adnoddau newydd wedi’u lansio gan raglen genedlaethol Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) i gefnogi pobl ifanc sy’n profi seicosis i reoli eu hiechyd corfforol.
Amlygwyd gwelliannau i wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yng nghynhadledd ddiweddar Iechyd a Gofal Gwledig Cymru.
Gwelliant Cymru a’r gwneuthurwr cerbydau Toyota yn ehangu eu gwaith i leihau’r amser rhwng amheuaeth o ganser a thriniaeth.
Mae ganddi ffocws gyrfaol ac arbenigedd ym maes anabledd dysgu. Mae penodi Rachel fel Athro Gwadd yn cydnabod ei harbenigedd a dyfnder ei gwaith yn y maes.
Croesawodd Ysgol Maes y Coed Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i’r ystafell ddosbarth i ddysgu am brosiect newydd arloesol sydd â’r nod o wella iechyd a lles plant ag anabledd dysgu.
Mae prosiect i wella rheolaeth meddyginiaethau ar yr uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi cael ei arddangos mewn cynhadledd diogelwch mamolaeth genedlaethol.
Pleser yw cyhoeddi enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2024. Mae’r gwobrau’n dathlu gwaith gwella ansawdd sydd wedi trawsnewid profiad a chanlyniadau i bobl yng Nghymru.
Comisiynodd rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru, Dr Dawn Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam, i gynnal yr ymchwil.
Bydd platfform digidol newydd sy’n mesur gweithgarwch gwella ac sydd am ddim i holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd GIG Cymru.
Fe wnaeth rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru gomisiynu Dr Jennifer Mc Elwee, Seicolegydd Plant Ymgynghorol a Lucinda Oliver, Seicolegydd Cynorthwyol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnal yr ymchwil.
Mae Gwelliant Cymru wedi sicrhau tri chais buddugol yng Nghystadleuaeth Poster Cyngres Diogelwch Cleifion Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ) eleni.