Neidio i'r prif gynnwy

Blog: Ein taith gyda'n gilydd fel arweinwyr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd mewn gwasanaethau anabledd dysgu

Two women are smiling.

23 Mawrth 2026


Yn y blog ar y cyd hwn, mae Melanie Vale a Rachel Thomas, dau uwch weithiwr Therapi Galwedigaethol yn GIG Cymru, yn myfyrio ar bŵer arweinyddiaeth ddilys o fewn gwasanaethau anabledd dysgu.

Gan dynnu ar eu profiad fel arweinwyr Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP), maent yn archwilio'r heriau, y cyfrifoldebau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig ag arwain newid ystyrlon yng Nghymru.

Gyda'i gilydd, maent yn tynnu sylw at sut mae cadw’n driw i werthoedd craidd yn gallu ysgogi gwelliant a gwella canlyniadau – sef themâu cryf sy'n dod i'r amlwg o’r Rwydwaith ar gyfer Gweithwyr Perthynol i Iechyd Anabledd Dysgu…


Mae arwain newid mewn gwasanaethau anabledd dysgu wedi bod yn un o rannau mwyaf gwerth chweil a heriol ein gyrfaoedd. I'r ddwy ohonom, nid yw arweinyddiaeth yn ymwneud â theitlau - mae'n ymwneud â bod yn ddilys, gwrando'n astud, a chadw’n driw i werthoedd sy'n rhoi pobl yn gyntaf.

Drwy gydol ein gyrfaoedd, mae’r ddwy ohonom wedi dod ar draws arweinwyr ysbrydoledig ac wedi cydnabod eu bod nhw'n aml yn rhannu'r un nodweddion: gonestrwydd, tegwch, cysondeb a thrugaredd. Mae’r ddwy ohonom wedi cael trafferth gyda 'syndrom y ffugiwr' ac wedi meddwl tybed a yw rolau arwain yn addas i ni. Dros amser, rydym wedi dod i werthfawrogi heriau a manteision ein rolau ac i gydnabod bod glynu wrth ein gwerthoedd yn ein helpu i aros ar y trywydd iawn.


Y cyd-destun polisi

Mae polisi anabledd dysgu Cymru yn darparu sylfaen gref ar gyfer y gwaith hwn. Mae Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu (2022–2026) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn galw am atal, integreiddio a chydweithio - mae pob un o’r egwyddorion hyn yn taro tant ag ymarfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP). Mae'r polisïau hyn yn pwysleisio lleihau anghydraddoldebau iechyd y gellir eu hatal, a hynny drwy ddarparu eiriolaeth, gwybodaeth hygyrch, ac addasiadau rhesymol. Maen nhw'n ein herio i feddwl am yr hirdymor a gweithredu'n gynnar. Mae pob gwasanaeth yn dod o dan bwysau cynyddol i wella gwasanaethau a chynnig atebion hirdymor cynaliadwy wrth geisio cydbwyso pwysau ariannol ar yr un pryd.

Mewn maes ymarfer llai fel anableddau dysgu, sy'n aml yn teimlo ei fod yn cael ei fwrw i’r cysgod, mae hyn yn cynyddu'r her o sicrhau bod anghenion pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru yn cael eu rhoi ar frig y rhestr flaenoriaethau. Fodd bynnag, fel y mae'r trosolwg o farwolaethau ymhlith pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru wedi'i ddangos inni, gall pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru ddisgwyl byw 20 mlynedd yn llai na'r boblogaeth gyffredinol. Yn aml, mae modd atal yr achosion marwolaeth, ac mae gan weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd rôl arwyddocaol i'w chwarae trwy hyfforddi gofalwyr, sgrinio cynnar, helpu i newid osgo unigolion a gwella symudedd, cymeriant deietegol, a gwneud addasiadau rhesymol.


Arweinyddiaeth ar waith

Ar y cyfnodau mwyaf heriol yn ein swyddi, mae’r ddwy ohonom wedi myfyrio am y ffaith ein bod ni wedi ystyried a oedd angen inni newid ein personoliaeth neu ein gwerthoedd, a hynny mewn ffordd ymwybodol, er mwyn bod yn arweinwyr mwy effeithiol neu lwyddiannus.  Wrth lwc, rydym wedi dysgu bod arweinyddiaeth ddilys yn golygu bod yn chi eich hun, cydnabod heriau, a gwerthfawrogi profiad bywyd. Mae gwerthoedd y gwahanol weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n dod ar draws pobl ag anabledd dysgu yn ymwneud yn bennaf â gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, urddas ac annibyniaeth. Ein nod yw gweithio ar y cyd i wneud y mwyaf o'r potensial i bobl fyw bywydau llawn. Mewn gwasanaethau anabledd dysgu, mae'r dull hwn yn creu lle ar gyfer cyd-gynhyrchu, ac mae’n sicrhau bod lleisiau nad ydynt yn aml yn cael eu clywed yn rhan ganolog o’r broses benderfynu. Felly mae'n hanfodol ein bod yn cadw ein gwerthoedd craidd er mwyn gwneud y gorau y gallwn i'r bobl rydyn ni'n eu cefnogi, a hynny gyda'r nod o wella ansawdd bywyd pobl ag anableddau dysgu.

Rydym yn falch bod y ddwy ohonom yn cael cynrychioli gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd ar y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Anableddau Dysgu (LDMAG), i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ar y lefel uchaf o waith llunio polisïau a gwneud penderfyniadau. Er mwyn cynrychioli Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn y ffordd orau yn LD MAG, mae angen i ni gysylltu â'r 13 proffesiwn gwahanol a chlywed eu barn. Rydym wedi gweithio ar y cyd â Dr Rachel Ann Jones o Berfformiad a Gwella GIG Cymru i sefydlu’r Rhwydwaith ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Anabledd Dysgu - i ehangu ein rhwydwaith a chreu lle i ystyried potensial gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n gweithio yn y maes hwn a rhannu arferion gorau ledled Cymru.


Edrych i'r dyfodol

Mae dyfodol arweinyddiaeth AHP mewn gwasanaethau anabledd dysgu yn ddisglair. Mae lle i arloesi, modelau sy'n canolbwyntio ar atal, a gofal yn y gymuned. Gall ein gwaith wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth leihau anghydraddoldebau iechyd, a hynny drwy wneud addasiadau rhesymol a chynghori arnynt. Mae'r fframwaith ar gyfer defnyddio dulliau anfferyllol i leihau arferion cyfyngol yng Nghymru yn ceisio nodi dulliau ataliol a nodi dewisiadau amgen sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn lle bo hynny'n briodol. Gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd (AHPs) yw'r trydydd grŵp proffesiynol mwyaf yng Nghymru, felly gyda'n gilydd, mae gennym y potensial i gael effaith sylweddol ar fywydau pobl ag anabledd dysgu. Rydym mewn sefyllfa dda i arwain, dylanwadu ac eirioli dros ganlyniadau gwell. Rydym eisoes yn gweithio ar y cyd ar draws gwasanaethau.  Wrth inni symud ymlaen, gallwn wneud gwahaniaeth hanfodol drwy beidio byth â cholli golwg ar y bobl sydd wrth wraidd ein gwaith.

Os yw'r themâu yn y blog hwn yn taro tant gyda chi - sef aros yn driw i'ch gwerthoedd, gwneud newid ystyrlon, a hyrwyddo pobl ag anabledd dysgu - yna y Rhwydwaith ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Anabledd Dysgu yw’r lle i chi.

Ymunwch â Melanie a Rachel yn ein cyfarfodydd sydd i ddod. I ymuno â ni, cysylltwch â: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk


Adnoddau alleweddol