Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau o brosiect peilot newydd yn dangos sut y gall Datix Cymru gryfhau'r oruchwyliaeth o arferion cyfyngol

A healthcare professional is holding a laptop.

11 Mawrth 2026


Mae canfyddiadau o brosiect peilot gan GIG Cymru wedi dangos sut y gallai newidiadau wedi'u targedu i Datix Cymru wella'r broses o gofnodi, monitro ac adolygu arferion cyfyngol ar draws lleoliadau gofal y GIG.

Perfformiad a Gwella GIG Cymru a Thîm Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru fu’n arwain y prosiect peilot mewn partneriaeth â byrddau iechyd. Profodd ddull newydd mewn gwasanaethau cleifion mewnol anabledd dysgu ac iechyd meddwl fel rhan o’r broses adrodd ar ddigwyddiadau niweidiol.

Mae’r canfyddiadau o’r data a gasglwyd rhwng misoedd Medi a Rhagfyr 2025 yn dangos sut y gall cofnodi mwy cyson a strwythuredig gefnogi arferion mwy diogel, llywodraethu cryfach a ffocws cliriach ar ofal sy’n seiliedig ar hawliau dynol.

Cynhaliwyd y prosiect peilot mewn unedau cleifion mewnol anabledd dysgu i oedolion ym Myrddau Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Betsi Cadwaladr, Bae Abertawe, ac Aneurin Bevan. Yn dilyn y llwyddiant cychwynnol, cafodd ei ymestyn yn ddiweddarach i gynnwys wyth ward iechyd meddwl i oedolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.


Gosod yr amodau ar gyfer cysondeb

Gall arferion cyfyngol, p’un a ydynt wedi'u cynllunio ai peidio, gael effaith sylweddol ar hawliau, urddas a llesiant pobl. Mae Fframwaith Llywodraeth Cymru ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn gosod disgwyliadau clir sy’n nodi fod yn rhaid i unrhyw ddefnydd o arferion cyfyngol fod yn gyfreithlon, yn gymesur a’i fod yn cael ei arfer dim ond pan fydd popeth arall wedi methu.  Mae hefyd yn disgwyl i sefydliadau allu cofnodi, monitro ac adolygu’r defnydd o’r arferion hyn mewn ffordd gyson a thryloyw.

Cyn y cynllun peilot, disgrifiodd byrddau iechyd amrywiadau yn y ffordd yr oedd arferion cyfyngol yn cael eu cofnodi ar Datix Cymru. Mewn nifer o achosion, dim ond drwy naratif testun rhydd y gellid adnabod y defnydd a wnaed ohonynt a oedd yn ei gwneud yn anodd dadansoddi patrymau neu gefnogi adolygiad prydlon. Profodd y cynllun peilot ddull gwahanol. Wrth adrodd am ddigwyddiad niweidiol, gofynnwyd i staff a oedd arferion cyfyngol wedi cael eu defnyddio. Sbardunodd ymateb cadarnhaol gyfres o gwestiynau a llifau gwaith i gasglu manylion allweddol.


Yr hyn a ddarganfu'r peilot

Drwy gydol y cyfnod profi, defnyddiodd staff y ward y ffurflen gofnodi newydd, a chasglwyd arferion cyfyngol mewn mwy na 279 o ddigwyddiadau niweidiol.

Dywedodd David O'Brien, Cadeirydd Grŵp Gweithredu Prosiect Arferion Cyfyngol Datix Cymru:

"Mae’r byrddau iechyd wedi adrodd bod y cofnodi’n fwy cyson ac yn fanylach, a bod gofyn cwestiynau trafod allweddol a llunio llif gwaith yn arwain at adolygiad o bob arfer.  Mae'r cwestiynau a bennwyd ymlaen llaw ar gyfer adolygwyr wedi ategu’r prosesau llywodraethu presennol. Mae'r gallu i gofnodi nifer o arferion cyfyngol o fewn un digwyddiad niweidiol wedi lleihau dyblygu ac wedi cefnogi dealltwriaeth fwy cywir o’r arferion ar lefel wardiau sefydliadau ac yn genedlaethol."

Dangosodd y cynllun peilot hefyd y gellid defnyddio'r ffurflen ar draws yr ystod lawn o fathau o arferion cyfyngol, gan roi hyder wrth ei chymhwyso ar draws lleoliadau anabledd dysgu ac iechyd meddwl.


Dysgu o wasanaethau anabledd dysgu

Mewn unedau cleifion mewnol anabledd dysgu i oedolion, ysgogodd y prosiect peilot drafodaeth bwysig ynghylch y modd y mae gwahanol arferion cyfyngol yn cael eu diffinio mewn lleoliadau gofal gan arwain at argymhellion ar gyfer gwaith yn y dyfodol.

Er bod cytundeb ar y cyd y dylid cofnodi pob arfer cyfyngol, tynnodd gwasanaethau sylw at y ffaith nad yw pob arfer yn digwydd mewn ymateb i ddigwyddiad niweidiol. Helpodd y cynllun peilot i egluro ble mae Datix Cymru yn cael ei ddefnyddio’n fwyaf priodol a ble mae angen trefniadau cofnodi amgen, sy’n cefnogi llywodraethu cliriach a mwy cymesur. Adroddodd gwasanaethau yn ogystal am well effeithlonrwydd, a llai o ddigwyddiadau niweidiol yn cael eu hadrodd gan y gellir cofnodi'r holl fanylion mewn un cofnod.

Bydd cofnodi’r defnydd o arferion cyfyngol ar Datix Cymru yn creu dull cyson ledled Cymru. Fodd bynnag, mae rhai byrddau iechyd yn credu y bydd monitro ac adolygu effeithiol hefyd yn gofyn am wybodaeth ychwanegol am acíwtedd cleifion ac amgylcheddau gofal cyn defnyddio'r data i feincnodi. Er bod y ffurflen gofnodi newydd yn cynorthwyo’r gwaith o adolygu a monitro, bydd angen gwerthuso ei heffaith ar leihau arferion cyfyngol dros amser.


Manteision ychwanegol mewn wardiau iechyd meddwl

Nododd wardiau iechyd meddwl a oedd yn rhan o'r cynllun peilot estynedig fanteision gweithredol ychwanegol.

Adroddodd timau gweinyddol fod llai o amser wedi'i dreulio'n adolygu adroddiadau naratif i dynnu gwybodaeth allweddol. Nododd staff y ward a hyfforddwyr arferion cyfyngol fod y fformat strwythuredig yn cefnogi cofnodi mwy cyson ac ansawdd data gwell.

Roedd defnyddio meysydd diffiniedig hefyd yn galluogi datblygu dangosfyrddau amser real, gan ganiatáu i wasanaethau adolygu data arferion cyfyngol wrth iddynt gael eu cofnodi, yn hytrach nag yn ôl-weithredol.


Y camau nesaf

Tynnodd y cynllun peilot sylw at y ffaith fod yn rhaid cefnogi newidiadau wrth gofnodi drwy sicrhau gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o arferion cyfyngol ymhlith y gweithlu. Bydd amrywiadau yn y ffordd y caiff arferion cyfyngol eu diffinio a'u deall yn gofyn am hyfforddiant parhaus, goruchwyliaeth, newid diwylliannol a pholisïau sefydliadol sy'n adlewyrchu Fframwaith Llywodraeth Cymru.

Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wrthi'n gweithio ar sut y gellir defnyddio data arferion cyfyngol ochr yn ochr â deallusrwydd diogelwch cleifion ehangach i gefnogi dysgu a gwelliant ystyrlon dros amser.

Ychwanegodd David O'Brien:

“Rydyn ni’n falch iawn o ganlyniad y prosiect hwn. Mae'n enghraifft wych o welliant ar draws nifer o wasanaethau anabledd dysgu sydd â'r potensial i fod o fudd i'r GIG yn ehangach. Rydyn ni wedi cwblhau asesiad opsiynau a fydd yn llywio penderfyniadau ynghylch cyflwyno yn y dyfodol. Mae'r cynllun peilot wedi dangos sut y gall ein newidiadau leihau llwyth gwaith gweinyddol, darparu un pwynt casglu data, a chefnogi'r adolygiad o arferion.”

Bydd gwaith yn parhau gyda byrddau iechyd, grwpiau cenedlaethol, a Thîm Pryderon Unwaith i Gymru i sicrhau bod datblygiadau yn y dyfodol yn cefnogi'r uchelgais a rennir o leihau arferion cyfyngol a chryfhau gofal sy'n seiliedig ar hawliau dynol ar draws GIG Cymru