11 Chwefror 2026
Mae Canllawiau a Safonau Cenedlaethol newydd wedi cael eu cyhoeddi i atgyfnerthu rôl hanfodol y Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd+ (HEF+) i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd i oedolion ag anabledd dysgu.
Mae Rhaglen Anabledd Dysgu Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cydweithio â Byrddau Iechyd yng Nghymru i ddatblygu'r canllawiau.
Nod y canllawiau yw rhoi eglurder a chefnogaeth i Fyrddau Iechyd i gwblhau Metrigau Sicrwydd Anabledd Dysgu Cymru Gyfan, a darparu a chyflenwi gofal sy'n mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd.
Dywedodd Bethany Kruger, Uwch Reolwr Gwella:
“Mae oedolion ag anabledd dysgu yn wynebu anghydraddoldebau iechyd parhaus y gellir eu hosgoi, sy’n cynnwys disgwyliad oes llai a chanlyniadau gwaeth o’u cymharu â’u cyfoedion yn y boblogaeth gyffredinol.
“Yr HEF+ yw’r unig fesur canlyniad dilys yn y DU sydd wedi’i gynllunio i nodi a mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn. Drwy gofnodi ffactorau allweddol fel tai, cyflogaeth, cyfathrebu, ynysigrwydd cymdeithasol, a rhwystrau gwasanaeth, mae'r HEF+ yn helpu gwasanaethau i fonitro, deall a gwella canlyniadau iechyd."
Wedi'i gyflwyno gyntaf yng Nghymru yn 2015, mae'r HEF+ eisoes wedi cefnogi gwasanaethau i fesur canlyniadau ac ysgogi gwelliant. Mae'r canllawiau cenedlaethol newydd yn adeiladu ar y gwaith hwn drwy ddiffinio disgwyliadau gofynnol ar gyfer gweithredu, asesu a dilyniant, ac yn sicrhau bod oedolion sy'n cyrchu gwasanaethau anabledd dysgu arbenigol yn derbyn asesiadau HEF+ prydlon ac ystyrlon drwy gydol eu teithiau gofal.
Mae'r canllawiau'n hyrwyddo dull amlddisgyblaethol, gyda thimau'n defnyddio data HEF+ i lywio penderfyniadau, cynllunio ymyriadau a gwella gofal. Gall data cyfanredol hefyd arwain dylunio, adolygu a chomisiynu gwasanaethau ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Bydd hyn yn helpu gwasanaethau i dargedu anghydraddoldebau a gwella canlyniadau i'r bobl maen nhw'n eu cefnogi.
Mae defnyddio'r fframwaith yn gyson yn sicrhau bod gofal yn canolbwyntio ar yr unigolion, yn deg, ac yn atebol ac yn galluogi gwasanaethau i ddangos effaith a blaenoriaethu anghenion iechyd yn effeithiol.
Mae’r canllawiau a'r safonau cenedlaethol llawn ar gyfer HEF+, ynghyd â Chrynodeb Hawdd ei Ddeall, ar gael i Fyrddau Iechyd a gwasanaethau anabledd dysgu arbenigol ledled Cymru.
Dysgwch ragor gan y Tîm Anabledd Dysgu Cenedlaethol yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru.