Mae pwyllgor newydd sy’n cynnwys arbenigwyr dementia Cyfadran Dementia Cymru wedi gwneud gwahaniaeth mawr ers iddo gael ei sefydlu fis Awst diwethaf ac mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i gyflwyno datblygiadau pellach yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Cafodd ei lansio yn 2020 i wella cysondeb ac ansawdd gofal dementia. Mae’n dod â gweithwyr proffesiynol o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd ochr yn ochr â phobl â phrofiad bywyd i gryfhau dysgu, rhannu arferion gorau a chefnogi datblygiad gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y claf ledled Cymru.
Dywedodd Farukh Navabjan, Uwch Reolwr Gwella ar gyfer y tîm dementia yng nghyfadran Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Mae dementia yn parhau i fod yn her fawr a chymhleth i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Nod gwaith y gyfadran yw lleihau anghydraddoldebau a chryfhau gallu proffesiynol ar draws y system.
“Mae pobl o wahanol broffesiynau, yn cynnwys pobl â phrofiad bywyd, yn aelodau o’r pwyllgor ac, ers iddo gael ei sefydlu, mae llais wedi cael ei roi i’r rhai sy’n arwain ar ddementia. Gall arweinwyr gysylltu ag aelodau’r pwyllgor am faterion yn ymwneud â dementia a chael eu cyngor a’u hadborth ar arferion newydd ac arferion sy’n dod i’r amlwg.”
Mae’r datblygiadau sydd ar ddod yn cynnwys:
Cafodd Cyfadran Dementia Cymru ei chreu mewn ymateb i amrywiadau sydd wedi bodoli ers tro byd yn y ffordd y mae Gwasanaethau Asesu Cof, practisiau meddygon teulu a thimau clinigol eraill yn adnabod pobl â dementia, ac yn eu cefnogi. Ei chenhadaeth yw cau'r bylchau hyn drwy hyrwyddo dulliau safonol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n diwallu anghenion cymunedau Cymru.
Ers iddi gael ei sefydlu, mae’r gyfadran wedi cyflwyno rhaglen datblygiad proffesiynol eang, yn cynnwys:
Mae'r sesiynau hyn wedi helpu i fagu hyder, lleihau gweithio heb ymwneud ag eraill a chreu cymuned broffesiynol sy’n tyfu sy’n ymroddedig i wella llwybrau dementia. Mae rhagor o ddosbarthiadau meistr wedi'u cynllunio, ochr yn ochr ag ymdrechion o’r newydd i gofnodi’r effaith ac adeiladu sylfaen dystiolaeth sy'n dangos gwelliant ar waith.
Mae Claire Hardcastle, therapydd iaith a lleferydd arbenigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn aelod gweithgar o'r gyfadran a chanfu fod y gefnogaeth a'r canllawiau'n fuddiol i'w chleifion: “Yn dilyn yr hyfforddiant, a chefnogaeth y gyfadran, dechreuais gyflwyno clinigau diagnostig yn annibynnol.
“Mae cefnogi cleifion yn y ffordd hon yn bwysig iawn gan nad oes llawer o therapyddion sy’n arbenigo mewn dementia yn gweithio ym maes therapi iaith a lleferydd. Mae’n bwysig bod gan gydweithwyr fynediad at y rhwydwaith amlddisgyblaethol hwn.
“Mae’r gyfadran wedi rhoi cyfle i mi ymroi i fy natblygiad proffesiynol ac wedi sicrhau cyllid ar gyfer fy rôl.”
Gall gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb mewn cyfrannu at waith y gyfadran gysylltu â Farukh.Navabjan2@wales.nhs.uk