Neidio i'r prif gynnwy

Cydweithio'n parhau i archwilio ffyrdd o leihau achosion o haint C. diff

10 Tachwedd 2025

Mae partneriaeth rhwng timau byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn parhau i weithio tuag at leihau cyfraddau cynyddol o heintiau C. diff mewn lleoliadau gofal iechyd.

Cynhaliwyd digwyddiad cyd-ddylunio ar-lein ym mis Mehefin lle bu cydweithwyr GIG o bob cwr o Gymru yn rhannu eu profiadau a'u syniadau i helpu i lunio'r Cydweithrediad Dysgu C. diff.

Dilynwyd hyn gan adolygiad cwmpasu dros yr haf, a oedd yn cynnwys cyfweld â 60 o bobl o amrywiaeth eang o swyddi yn cynnwys nyrsys, meddygon, microbiolegwyr, uwch swyddogion gweithredol, gweithwyr cymorth gofal iechyd, pobl sy'n gweithio mewn fferyllfeydd, glanhawyr, gweithwyr cyfleusterau ac ystadau, a gweithwyr atal a rheoli heintiau.

Nod yr astudiaeth oedd deall safbwyntiau staff ar yr hyn sy'n achosi heintiau C. diff mewn lleoliadau'r GIG a nodi cyfleoedd ar gyfer ymyriadau newid ymddygiad i leihau heintiau.

Cynhaliodd y cydweithrediad dysgu ei ddigwyddiad wyneb yn wyneb cyntaf ym mis Hydref, lle cyflwynwyd dadansoddiad thematig o'r holl gyfweliadau wedi’u cysylltu â model gwyddor ymddygiad.

Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Sue Tranka, Prif Swyddog Nyrsio Cymru: “Nid her glinigol yn unig yw C. diff - mae'n un ddynol iawn, sy'n effeithio ar gleifion, teuluoedd, a'r timau sy'n gofalu amdanyn nhw.

“Drwy ddod at ein gilydd i rannu syniadau a gyrru arloesedd, gallwn wneud gwahaniaeth go iawn a sicrhau bod pob claf yng Nghymru yn elwa o’r gofal gorau posibl.”

Dywedodd Samantha Matthews, Pennaeth Nyrsio (HARP) Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae'r digwyddiad dysgu hwn yn adlewyrchu'r ymrwymiad i bartneriaeth gofal diogel er mwyn sicrhau gwelliant parhaus a chydweithio. Mae ein harweinwyr clinigol yn ganolog i hyn, trwy sicrhau bod y mewnwelediadau a geir yn cael eu hymgorffori yn ein fframweithiau sefydledig, sef ein llwybrau gofal clinigol. Nid yw'n fenter ar wahân — mae'n rhan o sut rydym yn darparu gofal diogel ac effeithiol ledled Cymru.”

Ychwanegodd Michael Perry, Gwyddonydd Clinigol Ymgynghorol, Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Cafodd digwyddiad y Cydweithrediad Dysgu C. diff ei hwyluso’n wych gan arbenigwyr gwella a gwyddor ymddygiad o Berfformiad a Gwella GIG Cymru.

“Dan nawdd Grŵp Cyflawni Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd GIG Cymru, ac fel rhan o’r Bartneriaeth Gofal Diogel, daeth ag arweinwyr clinigol o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru ynghyd.

“Roedd yn enghraifft wych o’r ffordd y mae cydweithwyr rheng flaen a gwasanaethau cymorth GIG Cymru yn cydweithio i wella diogelwch i gleifion Cymru bob dydd. Roedd y mewnwelediad, a'r angerdd a rannwyd yn y digwyddiad yn dyst i broffesiynoldeb pawb a oedd yn bresennol.

“Mae’n rhoi hyder llwyr i mi y bydd pawb yn parhau i gydweithio i ymgorffori’r dysgu yn ystod, a thu hwnt i, oes y cydweithrediad dysgu er mwyn lleihau’r effaith niweidiol y mae heintiau C. difficile yn eu cael ar gleifion a’u teuluoedd, yn ogystal â’n cymunedau a’n gwasanaethau, ledled Cymru.”

Bydd aelodau’r cydweithrediad dysgu nawr yn gweithio gyda’u harweinwyr rhanbarthol i nodi meysydd addas i brofi newidiadau a dysgu ohonynt o fewn eu sefydliadau neu fel darnau cenedlaethol o waith.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cydweithrediad dysgu, ewch i: Grŵp Cydweithredol C. diff - Hafan