Ym mis Mawrth, gwnaethom lansio Gwobrau GIG Cymru 2024 gyda 12 categori newydd sbon, sy’n cyd-fynd â’r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023. Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd ar draws iechyd a gofal yng Nghymru. Yn ogystal ag arddangos y gwaith gwella ansawdd a diogelwch anhygoel sydd wedi trawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl yng Nghymru.
Roeddem wrth ein bodd i gael nifer fawr o geisiadau eleni, sy’n dangos ehangder y prosiectau gwella gwych sy’n digwydd ar draws y system iechyd a gofal yng Nghymru. Cafodd y panel beirniaid eu plesio gan safon y ceisiadau a dderbyniwyd ac roedd llunio rhestr fer yn hynod anodd. Dywedodd un o’r beirniaid…
“Roedd dewis ymgeiswyr ar gyfer y rownd derfynol eleni yn sicr yn her! Mae darllen rhai o’r ceisiadau gwych gan dimau ar draws ein GIG wedi bod yn wirioneddol ysbrydoledig. Roedd yn fraint fawr iawn gweld cymaint mae timau wedi’i gyflawni wrth wella iechyd a gofal yng Nghymru”.
Ar ôl llawer o drafod ymhlith ein beirniaid, rydym yn falch iawn o gyhoeddi'r cynigion sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Bydd y panel beirniadu nawr yn cynnal ymweliad rhithwir gyda phob un sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i gael rhagor o wybodaeth am eu prosiectau a gweld drostynt eu hunain y buddion y maent wedi'u cynnig i gleifion. Mae pob panel beirniadu yn cynnwys arbenigwyr o bob rhan o GIG Cymru, y sector cyhoeddus a chyrff proffesiynol.
Cyhoeddir yr enillwyr yn seremoni Gwobrau GIG Cymru 2024 ar 24 Hydref 2024.