Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect gwella yn cael ei arddangos mewn cynhadledd diogelwch mamolaeth genedlaethol

28 Hydref 2024


Mae prosiect i wella rheolaeth meddyginiaethau ar yr uned famolaeth yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin wedi cael ei arddangos mewn cynhadledd diogelwch mamolaeth genedlaethol.

Cyflwynodd Jennifer Pearce, Hyrwyddwr Diogelwch Mamolaeth Lleol ar gyfer Gwelliant Cymru a Bydwraig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, brosiect yn darlunio’r gwaith yng Nghynhadledd Genedlaethol Diogelwch Mamolaeth Baby Lifeline eleni

Bu tîm prosiect amlddisgyblaethol yn yr ysbyty yng ngorllewin Cymru yn archwilio cydymffurfiaeth y polisi rheoli meddyginiaeth sy'n ymwneud â rhoi fitamin K i fabanod newydd-anedig, atchwanegiad a argymhellir ar gyfer pob babi newydd.

Dywedodd Jennifer: “Rwy’n wirioneddol ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno poster ein prosiect gwella ansawdd yng Nghynhadledd Genedlaethol Diogelwch Mamolaeth Baby Lifeline 2024. Roedd yn brofiad anhygoel.

“Anrhydedd oedd cael rhannu gwaith y tîm ochr yn ochr â chymaint o weithwyr proffesiynol ysbrydoledig sy’n ymroddedig i wella diogelwch mamau a babanod newydd-anedig.

“Roedd y siaradwyr trwy gydol y dydd yn eithriadol. Fe wnaethant  gynnig dulliau ac atebion arloesol a oedd yn atgyfnerthu’r gred y gallwn gyda’n gilydd wneud gwahaniaeth a lleihau anghydraddoldebau iechyd. Roedd bod yn rhan o grŵp mor angerddol o glinigwyr wedi fy ngadael yn llawn cymhelliant ac yn optimistaidd am ddyfodol gweithio mewn partneriaeth amenedigol, diogelwch menywod a’u babanod.

“Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’m cydweithwyr am eu cefnogaeth barhaus i wella ansawdd a diogelwch yn Ysbyty Glangwili.”

Gall cydweithwyr sy'n dymuno siarad â Jennifer am ei phrofiad yn y gynhadledd, neu ehangu a chynyddu cyfleoedd, gysylltu â hi ar Jennifer.pearce3@wales.nhs.uk.

Gellir gweld poster Jennifer yma (Saesneg yn unig).