Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot GIG Cymru i ddeall arferion cyfyngol yn ehangu i faes gofal iechyd meddwl

A group of clinicians are standing side by side in a hospital corridor.

19 Tachwedd 2025


Yn dilyn canfyddiadau cynnar calonogol, mae prosiect peilot addawol yn ehangu i gwmpasu wardiau iechyd meddwl.

Mae'r prosiect peilot, sy'n anelu at ddeall defnyddio arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd pan fydd cleifion yn profi digwyddiad niweidiol, yn profi newidiadau i system Datix Cymru ar gyfer adrodd am ddigwyddiadau.

Nod yr ehangu yw adeiladu ar y canlyniadau cadarnhaol a gafwyd eisoes mewn lleoliadau anabledd dysgu, lle dangoswyd bod cofnodi arferion cyfyngol yn fanylach yn dod â photensial amlwg i wella tryloywder a’r ffordd y cânt eu monitro a’u deall.

Mae'r prosiect peilot yn gydweithrediad rhwng Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Tîm Rheoli Pryderon Unwaith i Gymru, a phob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru.

Nod y cam nesaf hwn yw sicrhau’r effaith fwyaf posibl o’r adnoddau cyfyngedig sydd ar gael drwy ei ehangu i gynnwys wardiau iechyd meddwl mewn un bwrdd iechyd. Bydd y datblygiad yn caniatáu i'r prosiect peilot archwilio manteision casglu data gwell yn ehangach ac yn fanylach. Caiff y dull ei fireinio cyn ei gyflwyno'n ehangach.

O fis Tachwedd 2025, cynhelir profion manylach o'r swyddogaeth cofnodi newydd mewn wardiau iechyd meddwl oedolion ac oedolion hŷn ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Bydd y data a gesglir yn llywio'r gwerthusiad terfynol ac yn helpu i lunio cyflwyno’r gwaith hwn ledled GIG Cymru yn y dyfodol, a fydd yn cefnogi gwelliannau parhaus o ran gofal a diogelwch cleifion.

Mae profion cynnar wedi dangos y gall casglu gwybodaeth fanylach am arferion cyfyngol yn rhan o adolygiadau digwyddiadau niweidiol gryfhau’r gwaith monitro ansawdd a diogelwch yn sylweddol. Bydd cyfnod cipio data'r cynllun peilot yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2025.