Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun peilot gweithwyr cefnogaeth gan gymheiriaid yn cael "effaith fawr" ar bobl sy'n aros am gymorth iechyd meddwl

2 Gorffennaf 2025


Gall aros i gael mynediad at gymorth iechyd meddwl fod yn gyfnod anodd i unigolion a'u teuluoedd, yn enwedig pan all mynediad at y cyngor a'r wybodaeth gywir fod yn gyfyngedig. 

Yn 2023, daeth tîm o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol a chydweithwyr o’r trydydd sector o ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) ynghyd i nodi pa gymorth pendant y gellid ei gynnig i wneud y cyfnod aros yn haws.

Bu eu cais i Gyfnewidfa Q* i ariannu'r gwaith hwn yn llwyddiannus a daeth y prosiect 'aros cystal â phosibl' yn realiti.

Nod y prosiect ar y cyd â Gwelliant Cymru (Perfformiad a Gwella GIG Cymru bellach), oedd dysgu gan bobl sy'n aros am ymyrraeth seicolegol ar hyn o bryd i ddatblygu a gweithredu prawf newid a gyd-gynhyrchwyd a oedd yn cefnogi’r agenda 'aros cystal â phosibl'. ​

Yn ganolog i brawf newid y prosiect fu penodi dwy rôl newydd i dîm lleol - sef gweithiwr cefnogaeth gan gymheiriaid sydd â phrofiad bywyd a seicolegydd cynorthwyol.

Rôl y gweithiwr cefnogaeth gan gymheiriaid yw darparu cymorth unigol i nifer cytunedig o bobl sydd ar restr aros am ymyrraeth seicolegol. Mae cyflwyno mentor cymheiriaid yn y tîm iechyd meddwl lleol yn BIPCTM wedi cael effaith gadarnhaol bendant. Mae wedi arwain at gyflwyno tair rôl mentor cymheiriaid ychwanegol yn y gwasanaeth ehangach.

Dywedodd Christine Jones, Gweithiwr Cefnogaeth gan Gymheiriaid: “Mae wedi bod yn daith hyfryd ac mae gweithio gyda phobl a cherdded eu llwybr hyd at therapi gyda nhw wedi bod yn anhygoel.

“Mae pobl rydw i wedi gweithio gyda nhw wedi cael eu barnu a’u stigmateiddio a heb gael eu gweld, ond mae’r bobl hyn yn bobl hyfryd.

“Maen nhw hefyd wedi gwneud i mi sylweddoli, nad yw’r ffaith fy mod wedi cael heriau iechyd meddwl yn golygu fy mod i’n neb a gallaf helpu pobl, gallwn ni adeiladu cymuned.”


Dangosodd grŵp ffocws o ddefnyddwyr gwasanaethau a oedd wedi gweithio gyda gweithiwr cefnogaeth gan gymheiriaid fod pobl yn teimlo eu bod yn cael eu lleisiau wedi’u clywed, eu bod yn cael cysondeb o ran cymorth a bod eu gweithwyr cefnogaeth gan gymheiriaid yn gallu cydymdeimlo â nhw ar ôl cael profiadau tebyg eu hunain.

Wrth siarad y llynedd, dywedodd un defnyddiwr gwasanaeth:

“Gwnes i gyfarfod fy ngweithiwr cefnogaeth gan gymheiriaid am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2024. Cafodd ein cyfarfod cyntaf gymaint o effaith arnaf nes iddo newid fy mywyd er gwell yn syth.

“Hi yw sylfaen fy nghefnogaeth byth ers hynny. Nid yw ei chefnogaeth a’i charedigrwydd byth yn gwegian, mae hi wedi gwneud i mi deimlo ffydd ynof fy hun eto.

“O ganlyniad i’w hymyrraeth garedig, cwblheais fy nghwrs Mentor Cymheiriaid cyntaf ac rwyf bellach yn fentor cymheiriaid cymwys ym maes cymorth ieuenctid.”

Dywedodd Andrew Munkley, Prif Therapydd y prosiect: “Mae wedi bod yn gyfle anhygoel i fod yn rhan o brosiect Cyfnewidfa Q a chael gweithio ar y cyd ag unigolion sydd â phrofiad bywyd, a chydweithwyr ym Mherfformiad a Gwella GIG Cymru.

"Mae Gweithwyr Cefnogaeth gan Gymheiriaid yn cynnig dewis arall unigryw i rolau clinigol. Dywedodd y rhai a gymerodd rhan eu bod yn teimlo'n llai ynysig ac yn fwy gobeithiol trwy rannu dealltwriaeth gyda rhywun a oedd wedi cael profiadau tebyg.

“Mae gwerth y rôl wedi’i wreiddio mewn perthnasoedd cydfuddiannol trawsnewidiol ac mae ymddangosiad gweithlu sydd â phrofiad bywyd a’i botensial i gael effaith gadarnhaol ar fywydau’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau yn gyffrous iawn!”

Ychwanegodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: "Mae'r prosiect hwn wedi dangos i ni'r gwahaniaeth mawr y gall ymgorffori profiadau bywyd ei wneud o fewn cymorth iechyd meddwl.

"Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r cydweithrediad hwn wedi'i gyflawni ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae hyn yn datblygu."

*Mae cymuned Cyfnewidfa Q yn lle gwych i bartneru â gweithwyr iechyd proffesiynol ledled y DU sy'n wynebu heriau tebyg wrth wella'r ddarpariaeth gwasanaethau iechyd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: https://q.health.org.uk (Saesneg yn unig)