3 Chwefror 2025
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi cyhoeddi canllawiau i gefnogi sefydliadau ar draws GIG Cymru i sefydlu Systemau Rheoli Ansawdd (QMS) effeithiol.
Mae'r papur Datblygu System Rheoli Ansawdd yn gosod fframwaith a methodoleg QMS a gynlluniwyd i'w mabwysiadu a’u gweithredu gan sefydliadau gofal iechyd ag ansawdd yn greiddiol iddynt, ac i wella'n barhaus er mwyn diwallu anghenion eu poblogaethau.
Mae'r papur yn amlygu dysgu a mewnwelediadau a gafwyd yn ystod proses bum mlynedd o ymchwilio, datblygu a phrofi fframwaith a methodoleg QMS newydd gan Gwelliant Cymru, sydd bellach yn rhan o gyfarwyddiaeth Ansawdd, Diogelwch a Gwella Gweithrediaeth GIG Cymru.
Darparodd cyfweliadau â rhanddeiliaid ledled y wlad, dadansoddiad thematig o 15 o gyfweliadau gydag arbenigwyr rhyngwladol, ac adolygiad llenyddiaeth sylweddol o tua 500 o grynodebau, papurau ymchwil gwreiddiol ac adroddiadau astudiaethau achos y sylfeini ar gyfer datblygu’r fframwaith a’r fethodoleg.
Wedi’u profi’n llwyddiannus ar lefel cyfarwyddiaeth a sefydliadol, mae’r fframwaith a’r fethodoleg yn darparu dull sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall sefydliadau ar draws GIG Cymru eu mabwysiadu i sefydlu systemau rheoli ansawdd effeithiol, fel sy’n ofynnol o dan y Ddyletswydd Ansawdd.
Mae'r Ddyletswydd yn cyfarwyddo cyrff GIG Cymru i sefydlu QMS effeithiol sy'n rhoi ffocws priodol ar reoli, cynllunio, gwella a sicrhau ansawdd, y mae pob un ohonynt yn ganolog i'r fframwaith QMS a chynllun y fethodoleg.
Dywedodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro dros Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Gweithrediaeth GIG Cymru: “Mae systemau rheoli ansawdd effeithiol yn cael eu cydnabod yn rhyngwladol fel rhai sy’n galluogi sefydliadau gofal iechyd i ddiwallu anghenion eu poblogaethau ac i wella gofal yn barhaus.
“Rydym yn falch o gyhoeddi'r fframwaith a'r fethodoleg QMS newydd hon, a gobeithiwn y bydd yn cefnogi sefydliadau ledled GIG Cymru i roi ansawdd wrth wraidd y ffordd y maent yn gweithredu fel rhan o ddarparu'r gofal iechyd gorau posibl i bobl Cymru.
“Mae hwn yn gam cynnar cyffrous tuag at roi cymorth cenedlaethol ehangach ar gyfer darparu systemau rheoli ansawdd effeithiol ledled GIG Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn datblygu adnoddau a chymorth pellach a fydd yn cael eu cyflwyno fel rhan o gam nesaf y Bartneriaeth Gofal Diogel.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda phartneriaid cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnwys GIG yr Alban a Chynghrair Gwella Iechyd Ewrop, i gyfrannu at hybu datblygiadau sy’n ymwneud â systemau rheoli ansawdd mewn gofal iechyd.”
Gallwch chi ddarllen y papur Datblygu System Rheoli Ansawdd yma, neu i gael rhagor o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â NHSWHC.Qualityandsafety@wales.nhs.uk.