Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil newydd yn archwilio rhwystrau a chyfleoedd o ran gwella gwasanaethau gofal integredig i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru

12 Ionawr 2026


Mae ymchwil newydd sy’n archwilio profiadau gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg yn dangos bod darparu gofal effeithiol ac integredig i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru yn anghyson a bod bylchau mewn integreiddio. 

Mae’r ymchwil yn edrych yn fanwl ar sut mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ledled Cymru yn profi ac yn gwneud synnwyr o’r gwasanaethau y maent yn eu darparu, ac yn tynnu sylw at enghreifftiau cadarnhaol o weithio amlasiantaethol yn ogystal â rhwystredigaethau o ran cydweithio tameidiog rhwng sectorau.  

Comisiynodd Rhaglen Anabledd Dysgu Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru Dr Dawn Jones, Uwch Ddarlithydd ym Mhrifysgol Wrecsam, i gynnal yr ymchwil sydd wedi taflu goleuni ar brofiadau gweithwyr proffesiynol, ac wedi tynnu sylw at heriau a chyfleoedd o ran gwella gofal integredig. 

Mae’r prosiect ymchwil yn dilyn adolygiad cynharach o lenyddiaeth a gwerthusiad o fodelau a fframweithiau gofal cenedlaethol ar gyfer darparu gofal i blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru.  Y cyhoeddiad diweddaraf yw trydedd ran a rhan olaf y gyfres ymchwil. Mae’n ychwanegu at gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n cefnogi'r angen am ofal sy'n canolbwyntio ar y claf. 


Canfyddiadau allweddol 

Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, a fforymau amlddisgyblaethol a chymunedau ymarfer eraill. 

Mae rhai o’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys: 

  • Gweithlu Ymrwymedig: Efallai bod realiti gwasanaethau integredig yn methu’r nod oherwydd heriau strwythurol a systemig, ond mae gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y system yn gwbl ymrwymedig i gefnogi plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu yng Nghymru. Rhannodd llawer o ymatebwyr enghreifftiau o gydweithio amlasiantaethol adeiladol a phwysleisiwyd pwysigrwydd gofal sy’n canolbwyntio ar y plentyn a gofal a arweinir gan anghenion. 

  • Gofal tameidiog: Dywedodd gweithwyr proffesiynol y gall llwybrau gwasanaeth fod yn anhyblyg, ac yn ei gwneud yn ofynnol i blant ffitio i mewn i fodelau wedi’u diffinio ymlaen llaw yn hytrach na bod gwasanaethau’n addasu i anghenion unigol. Gall 'adrannu' gofal fel hyn sy’n cynnwys asesu plant ar wahân ar gyfer therapi lleferydd, therapi galwedigaethol, neu gymorth addysg - arwain at oedi, dyblygu a rhwystredigaeth i deuluoedd a gweithwyr proffesiynol. 

  • Cydweithio anghyson: Er bod rhai gweithwyr proffesiynol yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr ar draws iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, adroddodd eraill rhwystrau a achosir gan wahanol fodelau gofal, mecanweithiau ariannu, a meini prawf asesu. O ganlyniad, mae teuluoedd yn aml yn teimlo bod yn rhaid iddynt lywio system gymhleth ar eu pen eu hunain. 

  • Rôl cyd-gynhyrchu: Tynnwyd sylw yn yr ymchwil at bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, sef pan fo gweithwyr proffesiynol yn gweithio ochr yn ochr â defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd i ddylunio a darparu gwasanaethau. Mae’r graddau y mae cyd-gynhyrchu yn cael ei ymgorffori mewn gwasanaethau yn amrywio’n sylweddol. Mae rhai gweithwyr proffesiynol yn mynegi pryderon bod cyfyngiadau o ran adnoddau yn cyfyngu ar ymgysylltu ystyrlon â theuluoedd. 

  • Galw am newid cynaliadwy: Un argymhelliad allweddol yw sicrhau arferion gweithio aml-asiantaeth mwy cyson i sicrhau bod gwasanaethau’n cydweithio ac yn darparu cymorth holistaidd. Mae’r ymchwil yn amlinellu’r angen am gyfathrebu tryloyw rhwng sectorau, ac ymgorffori egwyddorion cyd-gynhyrchu wrth ddylunio a darparu gwasanaethau. 


Gwybodaeth am yr awduron

Mae Rhaglen Anabledd Dysgu Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru yn gweithio i greu Cymru fwy diogel a thecach i bobl sy'n byw ag anabledd dysgu. Mae'r rhaglen yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i gyflawni prosiectau sy'n gwella iechyd a llesiant pobl ag anabledd dysgu. Mae pawb yn y gymuned yn haeddu gofal effeithiol ac effeithlon sy'n cwrdd â’u hanghenion unigol. 

Mae Dr Dawn Jones wedi bod yn aelod o dîm Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Wrecsam er 2007. Mae'n addysgu ar y rhaglenni Cymdeithaseg a Gwaith Cymdeithasol. Mae hi bellach yn Gyd-arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd BA (Anrh) mewn Cymdeithaseg. 

Mae Dr Jones yn ymchwilydd cymdeithaseg gweithgar sydd wedi cyhoeddi ar draws maes theori gymdeithasegol, polisi cymdeithasol a chymdeithaseg risg. Mae hi hefyd yn gynghorydd ymchwil i Uned Ddata Llywodraeth Leol Cynulliad Cymru, lle mae'n cynghori ar faterion ymchwil a pholisi.