Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu'r Weledigaeth Genedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru

A group of teachers and children stand side by side.

13 Chwefror 2025


Dathlwyd y Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru mewn digwyddiad arddangos ddydd Iau 13 Chwefror.

Tynnodd y digwyddiad sylw at y cyfraniadau sylweddol a wnaed gan blant a phobl ifanc at gynhyrchu’r cynllun, gan adlewyrchu pwysigrwydd sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed wrth lunio’r gwasanaethau sy’n effeithio arnynt.

Nod y Weledigaeth a’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yw creu dull Cymru gyfan o ddarparu mynediad teg at wasanaethau, gan eu grymuso i gyrraedd eu llawn botensial.

Rebecca Curtis speaks into a microphone as she gives a presentation. Yn rhan o Weithrediaeth GIG Cymru, croesawodd Gwelliant Cymru, gynrychiolwyr cynghorau ysgol a senedd disgyblion o bob rhan o Gymru. Daeth dros 50 o gynrychiolwyr i’r digwyddiad yng Nghanolfan Gelf Glassroom ym Mro Morgannwg.

Roedd y digwyddiad hefyd yn nodi lansiad fersiwn newydd sy’n hygyrch yn weledol ac sydd wedi cael ei chydgynhyrchu o’r Weledigaeth Genedlaethol. Cafodd ei chreu mewn ymateb uniongyrchol i adborth gan bobl ifanc.

Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella o fewn rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru: “Rydym mor falch o roi’r cyfle i bartneriaid allweddol o bob rhan o’r sectorau iechyd, addysg a gofal cymdeithasol ddeall a gwerthfawrogi’r effaith y gall plant a phobl ifanc ei chael pan fydd eu llais yn cael ei werthfawrogi.

“Rydym wedi cael cymaint o gyfraniadau treiddgar gan blant a phobl ifanc wrth gyd-gynhyrchu ein Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu Cenedlaethol. Maent wedi darparu safbwyntiau unigryw sydd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’n gwaith, gan gynnwys yr angen am fersiwn hygyrch i wella cynhwysiant ac ymgysylltiad.”

Rhoddodd Rhiannon Ivens, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynhwysiant a Busnes Corfforaethol yn Llywodraeth Cymru, yr anerchiad agoriadol. Siaradodd am bwysigrwydd cael Gweledigaeth Genedlaethol ddiffiniedig a chydweithio ar draws sectorau. Mae hyn yn gam hollbwysig i sicrhau dyfodol mwy cynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i blant a phobl ifanc ledled Cymru.

A group of adults and a child are laughing in front of a digital screen.

Nod y Weledigaeth Genedlaethol yw sefydlu dull cyson, hygyrch a hawdd ei ddeall tuag at wasanaethau plant ledled Cymru. Wedi'i ddatblygu gan raglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru, mae hyn yn cynnwys mynd i'r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at ofal iechyd a gwella gwasanaethau pontio.

Cynhaliodd Gwelliant Cymru 18 mis o ymgynghori helaeth i sicrhau bod y Weledigaeth Genedlaethol yn cael ei llunio gan y rhai y mae’n effeithio’n uniongyrchol arnynt. Roedd y broses yn cynnwys gweithdai, digwyddiadau gwrando, ymweliadau ag ysgolion, ac arolwg ymgynghori cyhoeddus. Amlygodd y canfyddiadau’r heriau a wynebir wrth gael mynediad at ofal a’r bylchau rhwng polisi ac ymarfer.

Mae rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru wedi llywio’r gwaith o gyflawni Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu Llywodraeth Cymru (2022-2026). Mae wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi GIG Cymru i wella diogelwch cleifion ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Dysgwch ragor am y Weledigaeth a'r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru nawr.

Cysylltu â ni

Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech gael gwybod mwy am raglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, anfonwch neges at: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk