19 Tachwedd 2025
Yn dilyn cyhoeddi’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ym mis Gorffennaf, datgelwyd enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2025 ddoe (dydd Mawrth 18 Tachwedd 2025) mewn digwyddiad dathlu arbennig yng Nghaerdydd. Mae'r gwobrau'n cydnabod cyflawniadau timau ledled Cymru sy'n ysgogi gwelliannau ym maes iechyd a gofal.
Cyflwynwyd 13 gwobr gan gynnwys gwobr arbennig am Gyfraniad Rhagorol at Wella Gofal Iechyd, a ddewiswyd o'r 12 cais buddugol.
Cafwyd digwyddiad ar ei newydd wedd eleni, ac fe ganolbwyntiodd ar ddathlu, dysgu a chydweithio. Cymerodd y rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ran mewn marchnadle posteri a sgyrsiau ysgafn. Arddangoswyd eu gwaith yn falch a rhannwyd mewnwelediadau â chydweithwyr o bob cwr o GIG Cymru. Roedd y gweithgareddau hyn yn darparu platfform i staff gysylltu â’i gilydd, dysgu, a chyfnewid syniadau ar gyfer lledaenu ac ehangu arferion gwella ledled Cymru.
Wrth fyfyrio ar y digwyddiad, dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella:
“Yn ystod cyfnod pan fo heriau parhaus ar draws y system iechyd a gofal, mae’r prosiectau a amlygwyd yn atgof pwerus o’r hyn y gellir ei gyflawni ar sail dycnwch, gwaith tîm, ac ymrwymiad ar y cyd i wella canlyniadau i gleifion. Maent yn dangos creadigrwydd, tosturi a bwriad amlwg cydweithwyr y GIG, sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.
Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr a'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol. Mae pob un o'r prosiectau hyn yn cynrychioli stori lwyddiant y GIG a all wir ysbrydoli unigolion eraill.”
Diolch arbennig i’n noddwr eleni, sef Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, am eu cefnogaeth.
Ymunwch â'r sgwrs a dilynwch Wobrau GIG Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol: