9 Gorffennaf 2025
Mae rhestr fer Gwobrau GIG Cymru 2025 wedi’i datgelu, ac mae’n arddangos rhai straeon llwyddiant ysbrydoledig y GIG o bob cwr o Gymru. Gan fod dros 200 o geisiadau o ansawdd uchel, roedd beirniadu yn her enfawr i'n paneli arbenigol.
Mae 36 o brosiectau wedi cael eu dewis, sy’n amlygu amrywiaeth o straeon llwyddiant y GIG gan dimau sy'n arwain gwelliannau i ansawdd a diogelwch ac yn trawsnewid profiadau a chanlyniadau pobl yng Nghymru. Mae prosiectau wedi cael eu cyflwyno ar draws ystod o gategorïau sy'n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.
Mewn cyfnod o heriau parhaus ar draws y system iechyd a gofal, mae'r prosiectau hyn yn fodd pwerus o’n hatgoffa o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy ddulliau gwella ansawdd. Maent yn dangos ymrwymiad cryf i sicrhau canlyniadau iechyd a gofal gwell sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru.
Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella:
“Rydym yn hynod falch o fod wedi derbyn dros 200 o gyflwyniadau ar gyfer Gwobrau GIG Cymru eleni, sy’n dangos yr ehangder enfawr o waith gwella arloesol sy'n digwydd ar draws GIG Cymru. Mae'r prosiectau hyn yn cynrychioli'r gorau o ran arloesedd a chydweithio. Llongyfarchiadau i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol a phob lwc yn y gwobrau yn ddiweddarach eleni.”
Yn y cam nesaf, bydd ein paneli beirniadu yn cwrdd â'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i archwilio eu prosiectau yn fanylach a deall yn uniongyrchol y manteision y maent wedi'u dwyn i gleifion a gwasanaethau. Mae pob panel yn cynnwys arbenigwyr o GIG Cymru, y sector cyhoeddus ehangach, a chyrff proffesiynol.
Mae digwyddiad dathlu newydd sbon hefyd yn cael ei ddatblygu i arddangos cyflawniadau'r timau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a'u prosiectau. Bydd yn cynnig lle ar gyfer dysgu ar y cyd, ysbrydoliaeth ar gyfer lledaenu gwelliannau a chydnabyddiaeth o straeon llwyddiant y GIG sy'n llunio iechyd a gofal yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu rhannu’n fuan.
Darllenwch am straeon llwyddiant blaenorol y GIG yma.
Dilynwch Wobrau GIG Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol am yr holl ddiweddariadau diweddaraf: