Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnoddau iechyd yr ymennydd i gefnogi dyfodol iachach i bobl ag anableddau dysgu

Mae cyfres o adnoddau newydd wedi'u lansio i gefnogi pobl i ddeall a rheoli iechyd eu hymennydd yn well.

Mae'r adnoddau newydd sy’n cael eu lansio yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu (15-21 Mehefin), yn anelu at wneud iechyd yr ymennydd yn fwy hygyrch, a thynnu sylw at ei bwysigrwydd, yn enwedig ar gyfer llesiant hirdymor ac ansawdd bywyd.

Comisiynwyd yr adnoddau gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru, ac maent wedi'u cyd-gynhyrchu gan Gyfarwyddiaeth Anabledd Dysgu Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Brain Box Club, sef grŵp o bobl ag anabledd dysgu sy'n mynd i Wasanaeth Dydd Dewisiadau Hyblyg.

Mae'r deunyddiau'n cynnwys canllaw hawdd ei ddeall, pum fideo diddorol a thempled i gefnogi unigolion i ddatblygu cynllun iechyd yr ymennydd personol. Maent yn hyrwyddo pum ffordd syml, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, o gefnogi iechyd yr ymennydd:

  • Aros mewn cyswllt ag eraill   
  • Cysgu'n Dda   
  • Bwyta’n iach       
  • Symud Mwy   
  • Rhoi Cynnig ar Rywbeth Newydd

Pam canolbwyntio ar bobl ag anableddau dysgu?

Mae pobl ag anableddau dysgu yn profi anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gan gynnwys mynediad gwaeth at wybodaeth a gwasanaethau iechyd ataliol.

Dengys tystiolaeth bod pobl ag anableddau dysgu mewn mwy o berygl o ddatblygu dementia o'i gymharu â'r boblogaeth gyffredinol. Mae'r risg honno'n cynyddu ymhellach ac yn gynharach i unigolion â syndrom Down, gyda hyd at 75 y cant o'r rhai dros 60 oed yn cael eu heffeithio.

Dywedodd Dr Rachel Potter, Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:

“Mae ein hymennydd yn ganolog i bopeth a wnawn; yn cefnogi ein hatgofion, ein meddyliau, ein hemosiynau, ein synhwyrau a’n gweithrediad corfforol.

“Er bod llawer o bobl yn gyfarwydd â phwysigrwydd iechyd corfforol, fel gofalu am ein calonnau, mae iechyd yr ymennydd yr un mor hanfodol, yn enwedig ar gyfer llesiant hirdymor ac ansawdd bywyd.

“Mae ymyrraeth gynnar, ymwybyddiaeth, a dulliau ataliol ar gyfer iechyd yr ymennydd yn hanfodol, yn enwedig i bobl sydd mewn mwy o berygl o broblemau gydag iechyd eu hymennydd.

“Drwy gefnogi unigolion i ddeall a gwella iechyd eu hymennydd yn gynharach mewn bywyd, gallwn hyrwyddo annibyniaeth a llesiant, efallai oedi neu leihau effaith dirywiad gwybyddol a galluogi gofal iechyd mwy personol a rhagweithiol.

“Mae ein hadnoddau newydd yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach ar draws GIG Cymru i leihau anghydraddoldebau iechyd, ymgorffori gwaith atal mewn ymarfer bob dydd, a chyd-gynhyrchu gwasanaethau gyda’r bobl sy’n eu defnyddio. Rydym eisoes yn gweld effaith dulliau rhagweithiol, sy'n canolbwyntio ar unigolion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gydag asesiadau cynnar, llwybrau gofal cydgysylltiedig, a chymorth gydol oes i unigolion a theuluoedd.”

Ychwanegodd David O'Brien, Uwch Reolwr Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Rydym yn falch ein bod wedi cefnogi’r fenter bwysig hon, ac rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i ehangu dulliau sy’n sicrhau y gall pawb gynnal ymennydd iach a byw’n dda am hirach.

“Rydym yn annog cydweithwyr, partneriaid a chymunedau i archwilio Adnoddau Iechyd yr Ymennydd ac i hyrwyddo eu defnyddio ar draws gwasanaethau a lleoliadau.

“Mae lansio’r adnoddau hyn yn ystod Wythnos Anabledd Dysgu yn atgyfnerthu neges syml ond bwerus: mae pawb yn haeddu’r wybodaeth, yr offer a’r gefnogaeth i fyw bywyd iach, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn gwireddu hynny, mae’n rhaid inni wrando ar brofiadau bywyd, dylunio gwasanaethau cynhwysol, a chymryd camau ystyrlon i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.”