Neidio i'r prif gynnwy

Lansio adnoddau Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis i gefnogi iechyd corfforol da

8 Ionawr 2025


Mae cyfres o adnoddau newydd wedi’u lansio gan raglen genedlaethol Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis (EIP) i gefnogi pobl ifanc sy’n profi seicosis i reoli eu hiechyd corfforol.

Gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ddefnyddio'r gyfres 'Cyfres Tri' o offer ac adnoddau iechyd corfforol i gefnogi pobl ifanc sy'n profi seicosis gyda'u hiechyd corfforol. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael i gynulleidfaoedd ehangach sy'n dymuno clywed mwy am y sgrinio iechyd corfforol a'r ymyriadau sydd ar gael i bobl sy'n derbyn gofal gan wasanaethau EIP yng Nghymru.

Lansiwyd yr adnoddau newydd mewn digwyddiad a gynhaliwyd i gydnabod a rhannu gwaith a wneir gan wasanaethau EIP ledled Cymru i wella’r cymorth a gynigir i bobl sy’n profi seicosis, lleihau derbyniadau cleifion mewnol a hyd arosiadau’r cleifion.

Esboniodd amrywiaeth o siaradwyr pam mae angen i iechyd corfforol fod yn flaenoriaeth i EIP a’r gwasanaethau iechyd meddwl. Soniwyd hefyd am y cyfleoedd sydd ar gael o ran datblygiadau a gwelliannau pellach.

Bu Sally Prichard, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a Rhian Downs, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, sy’n arwain y ffrwd waith iechyd corfforol, yn arddangos gwaith y rhaglen genedlaethol sy’n cynnwys datblygu’r gyfres o ddeunyddiau sy’n cefnogi pobl ifanc a gweithlu’r EIP i roi ymyriadau cadarn ar waith er mwyn gwella iechyd corfforol.  

Bu Sally a Rhian hefyd yn trafod rhaglen LEAP (Addysg Ffordd o Fyw i Gyflawni Potensial) yn elfen graidd o gynnig EIP, sy’n amlygu’r cysylltiad rhwng iechyd corfforol a llesiant meddyliol.

Trafododd Dr Sheila Hardy, Addysgwr Nyrsys Practis, Ymddiriedolaeth Charlie Waller bwysigrwydd atal yn lle gwella ac “arwain unigolyn mewn ffordd araf a phwyllog” i hyrwyddo diwylliant o iechyd corfforol da i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl.

Tynnodd Dr Hardy sylw at gyfrifoldeb pob ymarferydd i hyrwyddo cael trafodaeth am iechyd corfforol ac ymyriadau ar gyfer yr unigolyn ifanc.

Cynhaliodd Dr David Shiers, gofalwr, cyn feddyg teulu a chyd-arweinydd Rhaglen Ymyrraeth Gynnar mewn Seicosis Genedlaethol Lloegr (2004-2010) sesiwn holi ac ateb ddiddorol am ei brofiad fel gofalwr i’w ferch a brwydr eu teulu i gael gofal a thriniaeth a oedd yn annog iechyd a llesiant da.

Roedd cyflwyniad olaf y diwrnod yn canolbwyntio ar raglen Therapi Antur EIP a'r cyfleoedd ar gyfer hybu iechyd corfforol.

Mae gwasanaethau EIP ledled Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau trydydd sector i ddatblygu a chyflwyno rhaglen therapi antur genedlaethol sy’n annog pobl sy’n profi seicosis i gymryd rhan mewn mentrau sy’n seiliedig ar brofiadau i wella eu llesiant ac iddynt wella.

Dywedodd Michaela Morris, Rheolwr Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl, Gweithrediaeth GIG Cymru; “Mae gwasanaethau EIP ledled Cymru wedi gweithio ers sawl blwyddyn i ddeall yn llawn rôl iechyd corfforol wrth wella’r cyfleoedd bywyd hirdymor y dylai unigolyn eu cael.

“Mae gweithlu EIP wedi bod ar daith ddysgu sydd wedi arwain at wella sgiliau ymarferwyr a datblygu set eithriadol o adnoddau a fydd o fudd i iechyd corfforol yr unigolyn ifanc, a dealltwriaeth eu teuluoedd o ran pwysigrwydd hyn i’w hanwylyd.

“Diolch i holl wasanaethau EIP am gydweithio a chydgynhyrchu i ddatblygu’r gwaith cenedlaethol hwn.”

Bydd yr holl adnoddau ar gael ar wefan newydd Seicosis Cymru a fydd yn cael ei lansio fis nesaf.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Katie.Cole@wales.nhs.uk