22 Hydref 2025
Mae treial newydd wedi dechrau i foderneiddio cipio data a gwneud penderfyniadau ar anghydraddoldebau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd y treial tri mis yn archwilio fersiwn ddigidol o'r Fframwaith Cydraddoldeb Iechyd+ (HEF+), mesur canlyniad a ddefnyddir gan ymarferwyr arbenigol mewn gwasanaethau anabledd dysgu.
Mae asesiadau HEF+ yn cael eu cwblhau gan ymarferwyr iechyd ynghyd â phobl ag anabledd dysgu a'u teuluoedd neu ofalwyr. Gall yr asesiadau helpu i lywio penderfyniadau ar sail gwybodaeth ar gyfer unigolyn ar faterion pwysig, fel ble maen nhw'n byw, sut maen nhw'n cadw'n egnïol, y bwyd maen nhw'n ei fwyta, a'r gwasanaethau y mae angen iddyn nhw gael mynediad atynt.
Nod y treial yw moderneiddio'r HEF+ o daenlen well i gymhwysiad digidol symlach, a gwella ei ddefnydd a'r nifer sy’n ei ddefnyddio ledled Cymru. Mae'r HEF+ yn rhoi'r offer i wasanaethau gasglu ac olrhain data effaith cydraddoldeb iechyd, a throi mewnwelediadau'n welliannau ymarferol sy'n llunio cyflenwi a dylunio gwasanaethau ar gyfer unigolion, cymunedau, neu ranbarthau cyfan.
Mae'r data a gesglir gan HEF+ yn cael ei fonitro a'i gasglu dros gyfnod o amser i nodi amrywiad, nodi anghydraddoldebau a gwella canlyniadau iechyd. Drwy ddeall y ffactorau hyn, mae'n helpu i atal ac ymyrryd yn rhagweithiol, ac yn lleihau anghydraddoldebau i bobl ag anabledd dysgu.
Mae grŵp cenedlaethol wedi'i sefydlu i oruchwylio datblygiad HEF+ digidol, sy’n cynnwys Perfformiad a Gwella GIG Cymru, a byrddau ac iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd lleol yng Nghymru. Mae'r treial yn digwydd ar safleoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Dywedodd Rebecca Temple-Purcell, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Nyrsio, Diogelwch Cleifion, Ansawdd a Phrofiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:
“Mae’r treial hwn yn gam pwysig ymlaen i wneud yr HEF+ yn fwy hygyrch ac yn haws i’w ddefnyddio. Drwy ddigideiddio’r offeryn, gallwn gofnodi a gweithredu’n well ar anghenion unigolion, a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed. Yn y pen draw, bydd hyn yn helpu i wella canlyniadau i bobl ag anabledd dysgu a darparu cefnogaeth gryfach i'w teuluoedd a'u gofalwyr.”
Mae Rhaglen Anableddau Dysgu Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau i ddefnyddio'r HEF+. Mae'n ymwneud â sawl prosiect i hyrwyddo ei effeithiolrwydd.
Ychwanegodd Bethany Kruger, Uwch Reolwr Gwella yn Perfformiad a Gwella GIG Cymru:
“Mae lansio’r treial HEF+ digidol yn nodi carreg filltir allweddol yn ein hymrwymiad i ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n cryfhau sut rydym yn gwrando ar anghenion unigolion ag anabledd dysgu ac yn gweithredu arnynt, a hyrwyddo cydweithio agosach rhwng gweithwyr proffesiynol, teuluoedd a defnyddwyr gwasanaethau i ysgogi newid ystyrlon.”
Ewch i wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru i gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiad yr HEF+.