Neidio i'r prif gynnwy

Dathlu rhagoriaeth mewn gwelliant ac ansawdd: Mae Gwobrau GIG Cymru 2025 bellach ar agor ar gyfer ceisiadau

28 Ebrill 2025


Mae Gwobrau GIG Cymru 2025 ar agor yn swyddogol ac fe’ch gwahoddir i gyflwyno cais…

Bellach yn ei ail flwyddyn ar bymtheg, mae Gwobrau GIG Cymru yn tynnu sylw at y gwaith gwella ansawdd anhygoel sy'n trawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru. P'un a ydych chi'n glinigwr, yn fyfyriwr, neu'n rhan o dîm anghlinigol, dyma'ch cyfle i gael eich cydnabod.


Yn ôl ar gyfer 2025

Mae gwobrau 2025 yn cynnwys 12 categori i ddewis ohonynt, sy’n cyd-fynd â'r Ddyletswydd Ansawdd a Safonau Ansawdd Iechyd a Gofal 2023.

  1. Gwobr Gofal Diogel GIG Cymru
  2. Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru
  3. Gwobr Gofal Effeithiol GIG Cymru
  4. Gwobr Gofal Effeithlon GIG Cymru
  5. Gwobr Gofal Teg GIG Cymru
  6. Gwobr Gofal sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn GIG Cymru
  7. Gwobr Arweinyddiaeth GIG Cymru
  8. Gwobr Cynaliadwyedd Gweithlu GIG Cymru
  9. Gwobr Diwylliant Tîm GIG Cymru
  10. Gwobr Gwybodaeth GIG Cymru
  11. Gwobr Dysgu ac Ymchwil GIG Cymru
  12. Gwobr Dull System Gyfan GIG Cymru

Yn ogystal, bydd  enillydd y Wobr Cyfraniad Eithriadol i Wella Gofal Iechyd yn cael ei ddewis o blith enillwyr y 12 categori.  


Pam cyflwyno cais i Wobrau GIG Cymru?

Gall eich syniadau ar gyfer newid wneud gwahaniaeth go iawn i'r bobl yn eich gofal, eich sefydliad a'r system iechyd a gofal yn ei chyfanrwydd. Trwy gyflwyno cais, gallwch:

  • Rannu eich llwyddiant a chael cydnabyddiaeth i'ch prosiect a'ch tîm,
  • codi proffil eich gwaith gwella, a
  • bod yn rhan o gymuned o ddysgu a gwella a all ysbrydoli pobl eraill ar draws GIG Cymru.

Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella  “Mae Gwobrau GIG Cymru yn parhau i fod yn ffordd wych o dynnu sylw at waith gwella ansawdd sy’n digwydd ledled Cymru. Rydyn ni eisiau clywed gan bob rhan o'r system - prosiectau mawr neu newidiadau bach, beth bynnag fo maint eich gwaith gwella, mae'r gwobrau yma i helpu i arddangos eich cyflawniadau. Cleifion sydd wrth wraidd gwaith gwella, a thrwy rannu eich straeon, gallwch ysbrydoli eraill, a sicrhau bod dysgu’n lledaenu y tu hwnt i brosiectau lleol er budd pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ledled Cymru.”


Sut i gyflwyno cais?

  1. Darllenwch y Canllaw Cystadlu yn ofalus i ddod o hyd i'r holl wybodaeth allweddol sydd ei hangen arnoch cyn i chi gyflwyno eich cais.
  2. Ewch i'r platfform gwobrau ar-lein i gyflwyno eich cais. Cofiwch ofyn am ganiatâd priodol gan eich Cyfarwyddwr Gweithredol cyn i chi gyflwyno eich cais.

Mae gennych tan 5:00pm, dydd Gwener 6 Mehefin, i gyflwyno eich cais. Bydd y ceisiadau sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yn cael eu cyhoeddi ym mis Gorffennaf.

Peidiwch â cholli'ch cyfle i gael eich cydnabod. Cyflwynwch gais heddiw ac fe allech chi fod yn enillydd!