Mae byrddau iechyd ledled Cymru yn gweithio ar draws timau ac yn cydweithio’n agored i helpu i ddiagnosio canser yn fwy effeithlon i bobl Cymru, gyda chefnogaeth Cydweithredfa Patholeg Gellog Canser Cymru Gyfan.
Mae'r gydweithredfa, a letyir gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru (NHSP&I), wedi'i chynllunio i gefnogi byrddau iechyd ledled Cymru i gyflawni'r Un Llwybr Canser; sef targed Llywodraeth Cymru ar gyfer diagnosio canser a dechrau triniaeth yn gyflymach. Mae'r Un Llwybr Canser, a gyflwynwyd yn 2019, yn ei gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd yng Nghymru sicrhau bod cleifion yn dechrau eu triniaethau ymhen 62 diwrnod o'r pwynt cyntaf yr amheuir bod canser yn bresennol.
Er mwyn helpu i nodi rhwystrau ac oedi i gyflawni'r Un Llwybr Canser, mae NHSP&I a’r byrddau iechyd ledled Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r gwneuthurwr cerbydau Toyota ers 2022 i helpu i symleiddio'r llwybr canser trwy fethodoleg ddarbodus. Wrth adolygu'r llwybr, drwy’r gwaith hwn, a gafodd ei gomisiynu gan Rwydwaith Canser Cymru yn y lle cyntaf, fe wnaethant nodi bod rhwystr yn y cyfnod diagnostig.
Defnyddir diagnosteg i ddisgrifio'r broses o gynnal profion a gweithdrefnau meddygol i benderfynu a oes canser yn bresennol ac os felly, i nodi pa fath o ganser ac ym mha gam mae'r canser. Mae adrannau sy'n rhan o ddiagnosteg yn cynnwys endosgopi, delweddu meddygol neu radioleg, a phatholeg gellog.
“Penderfynon ni ganolbwyntio ein gwaith ar batholeg gellog gan fod yr adran hon yn cael ei sbarduno gan brosesau sy'n addas ar gyfer y dull darbodus.” Gwelsom mai'r prif rwystr ym maes diagnosteg oedd anfon canlyniadau'r biopsi i'r tîm amlddisgyblaethol (MDT) yn brydlon, fel y gellir esbonio cwrs triniaeth y cytunwyd arno i'r claf yn effeithlon.
“Gan fod gennym gynulleidfa ymroddedig ac amserlen benodol i’w dilyn, penderfynon ni fabwysiadu model cydweithredol i gyflymu’r gwaith hwn, sydd â dulliau profedig i ledaenu gwelliannau rhagorol ar draws y system”, meddai Rosalyn Davies, Arweinydd Gwelliant, Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Mae’r gydweithredfa yn seiliedig ar fodel Cydweithredol Breakthrough Series (BTS) y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (SGGI), sy'n cynnwys cyfres o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb a rhithwir gyda chyfnodau gweithredu rhyngddynt, pan fo timau fel arfer yn edrych ar dreialu gwelliannau ac yn adrodd yn ôl ynghylch a ydynt wedi bod yn llwyddiannus.
Mae dros naw mis wedi mynd heibio ers cychwyn y gydweithredfa ac mae ei haelodau yn cynnwys gwyddonwyr biofeddygol, uwch reolwyr, patholegwyr ymgynghorol a staff eraill o labordai patholeg gellog ar draws chwe bwrdd iechyd. Mae hefyd gyfadran sy'n cynnwys ymgynghorwyr, arweinwyr clinigol a chyfarwyddwyr sy'n dod â phrofiad ac arbenigedd o'u meysydd priodol.
Ychwanegodd Jonathan Clarke, Arweinydd Clinigol, Perfformiad a Gwella GIG Cymru, “Rydym yn cyd-ddylunio sut y dylai’r gydweithredfa weithio i’r timau, gan fod hon yn broses ddysgu y mae angen iddi weithio i’w haelodau. Mae'r diwylliant a fwriadwyd ar gyfer y cydweithredfeydd yn galluogi timau i rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd yn agored; rydym wedi ymdrechu lawer i sicrhau y bydd aelodau'n teimlo'n ddiogel yn seicolegol wrth rannu eu cynnydd.”
Gellir disgrifio diogelwch seicolegol fel teimlo'n ddiogel mewn gweithle i fynegi syniadau'n agored, gallu cyfaddef bod camgymeriad wedi’i wneud a chwestiynu neu herio cydweithwyr yn barchus, heb ofni y bydd dial neu sgîl-effeithiau niweidiol. Mae gweithredu diwylliant sy'n ddiogel yn seicolegol yn rhan hanfodol o ddarparu gofal diogel i gleifion, fel y'i modelwyd yn y Fframwaith ar gyfer Gofal Diogel, Dibynadwy ac Effeithiol.
“Mae adeiladu diwylliant sy’n ddiogel yn seicolegol yn cymryd amser, yn enwedig wrth i ni barhau i weithredu mewn byd rhithwir sy’n tyfu’n barhaus. Gan fod y gydweithredfa yn cynnwys staff sydd wedi'u lleoli ledled Cymru, cynnal cyfarfodydd ar-lein yw’r dull mwyaf ymarferol a chost-effeithiol iddynt gadw mewn cysylltiad â’i gilydd.
“Er mwyn helpu i ddod â staff ynghyd yn y ffordd hon, gofynnwn i bob bwrdd iechyd gadeirio sesiwn alwad hyfforddi fisol, fel y bydd y cyfrifoldeb yn cael ei rannu’n gyfartal ymhlith yr aelodau. Rydym bob amser yn gofyn am fewnbwn gan yr aelodau ynghylch sut y dylid cynnal sesiynau a'r pynciau y maent am iddynt gael eu trafod, fel y bydd hyn yn rhoi ymdeimlad o berchnogaeth iddynt dros y gydweithredfa. Drwy weld eu cydweithwyr mewn byrddau iechyd eraill yn bod yn agored yn y galwadau, mae modd i’r aelodau fod yn onest ynglŷn â’r rhwystrau y maen nhw wedi'u hwynebu a sut maen nhw wedi’u goresgyn. Mae hefyd yn gyfle iddynt drafod y gwelliannau y maen nhw wedi'u gweld gyda’u cydweithwyr drwy gasglu data, sy’n ffordd o annog dysgu.
“Fodd bynnag, nid yw hynny’n golygu nad yw ein haelodau yn gwerthfawrogi treulio amser gyda’i gilydd wyneb yn wyneb.” Ychwanegodd Jonathan, “Yn ystod pob un o’r sesiynau dysgu wyneb yn wyneb, rydym yn hwyluso timau i ymweld â labordai ei gilydd, ac mae timau wedi elwa’n sylweddol ar rannu gwybodaeth ym meysydd prosesau a llif labordy.”
Enghraifft benodol o ddysgu cydweithredol oedd ymweliad tîm o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) â'r labordy ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCF) fel rhan o sesiwn ddysgu wyneb yn wyneb wedi'i threfnu. Cyflwynodd y tîm yn BIPCF eu syniad newid, sef cynorthwyydd cyffredinol, neu 'float role'. Mae hyn yn cyfeirio at berson sy'n gyfrifol am gwblhau tasgau ad hoc a gweinyddol yn unig, sef y gwaith a oedd yn tynnu’r timau clinigol o’u gwaith dadansoddi samplau. Yn y pen draw, mae hyn wedi arwain at leihau ôl-groniadau mewn labordai. Gyda chymorth hyfforddiant darbodus, gallai BIPCF ddangos faint o amser a arbedwyd, a nifer y cleifion a dderbyniodd eu canlyniadau yn gyflymach, o gyflwyno’r rôl hon. Roedd gan BIPAB yr un pryderon â BIPCF, ac aethant â'r dysgu a'r data hyn yn ôl i'w bwrdd iechyd.
Yn yr un modd, yn y sesiwn ddysgu ddiweddaraf ym mis Hydref, croesawodd y tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) aelodau i’w labordy a chyflwyno'r gwelliannau iddynt y maent wedi'u gwneud hyd yn hyn drwy fethodoleg ddarbodus, gyda’r buddsoddiad ariannol lleiaf posibl. Fodd bynnag, y wers bwysicaf y mae’r tîm wedi’i dysgu hyd yn hyn yw pwysigrwydd creu 'meddylfryd' sy'n galluogi’r tîm i 'arbrofi heb ofni methu' wrth geisio newid eu prosesau.
“Fe’i profwyd mai po fwyaf o amser y mae grŵp yn ei dreulio gyda’i gilydd, a pho fwyaf y crëir diogelwch seicolegol, y mwyaf y mae timau’n fodlon mabwysiadu syniadau newid tebyg gan eraill pan fyddant yn berthnasol, yn hytrach nag ail-greu proses sydd eisoes yn gweithio.
“Mae’r timau’n parhau i ddweud eu bod nhw’n teimlo’n fwy cysylltiedig â’i gilydd, yn frwdfrydig i wneud gwelliannau, a’u bod yn gwerthfawrogi’r amser sydd wedi’i neilltuo iddynt ddod at ei gilydd oherwydd strwythur y gydweithredfa.
“Er ein bod ni bellach hanner ffordd drwy’r gwaith, mae’r timau eisoes wedi gwneud cynnydd mawr, ac mae’r canlyniadau’n dechrau dod i’r amlwg. "Rwy'n edrych ymlaen at weld beth sydd o'n blaenau yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf", meddai Ros i gloi.
Cyhoeddir diweddariadau pellach ar y gydweithredfa ar wefan NHSP&I.