Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgyrch y Proffil Iechyd yn anelu at ddiwallu anghenion y gymuned anabledd dysgu

20 Ionawr 2025


Hawdd ei darllen

Mae ymgyrch newydd ledled Cymru yn galw ar bobl sydd ag anabledd dysgu i fod yn berchen ar Broffil Iechyd a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed.

Mae Proffil Iechyd yn ddogfen sy'n eiddo i bobl sydd ag anabledd dysgu i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Gellir ei ddefnyddio i oresgyn rhwystrau cyfathrebu a helpu staff gofal iechyd i wneud addasiadau rhesymol.

Mae Lloyd Martin, yr unigolyn ieuengaf sydd ag anabledd dysgu i gwblhau marathon llawn, yn gwerthfawrogi ei Broffil Iechyd gymaint â'i Record Byd Guinness oherwydd ei fod yn helpu gwasanaethau gofal i ddiwallu ei anghenion trwy wneud addasiadau rhesymol.

“Mae Proffil Iechyd yn fy helpu i rannu gwybodaeth bwysig amdanaf i ac am fy iechyd,” meddai Lloyd, a gydiodd yng nghalonnau yn Efrog Newydd wrth iddo ddawnsio’i ffordd drwy’r pellter o 26.2 milltir yn ei farathon diweddaraf.

Mae'r dyn 20 oed yn defnyddio ei Broffil Iechyd i oresgyn y math o anghydraddoldebau iechyd y mae llawer o'i gymheiriaid yn eu hwynebu.

“Mae’n cynnwys gwybodaeth fel fy hanes meddygol, sut rwy’n cyfathrebu, fy alergeddau, fy meddyginiaeth, a’r cymorth sydd ei angen arnaf. Mae'r staff yn gwybod yn union sut i fy helpu pan fyddaf yn mynd i apwyntiadau. Mae yr un mor bwysig â fy nhystysgrif record y byd.”


Gall y ddogfen gael ei chwblhau gan unigolion sydd ag anabledd dysgu neu gyda chefnogaeth rhywun sy'n eu hadnabod yn dda, fel eu teuluoedd, gofalwyr, a staff cymorth.

Lloyd Martin completes a Health Profile document with his mum, Ceri Hooper, who is holding a pen. Dywedodd Ceri Hooper, Mam Lloyd a gofalwr: “Dim ond 10 munud gymerodd hi i ni lenwi Proffil Iechyd Lloyd ac mae’n arf cyfathrebu defnyddiol iawn i ni. Dylai fod gan bob unigolyn sydd ag anabledd dysgu Broffil Iechyd. Byddwn yn annog teuluoedd a gofalwyr i helpu hyn i ddigwydd oherwydd gall arwain at brofiadau llawer mwy cadarnhaol wrth gael mynediad at wasanaethau iechyd.”

Gellir rhoi'r Proffil Iechyd i staff gofal iechyd, fel meddygon a nyrsys, i'w helpu i roi'r gofal cywir sy'n canolbwyntio ar y claf ar yr adeg gywir drwy wneud addasiadau rhesymol. Gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw apwyntiad, gan gynnwys lleoedd clinigol fel ysbytai neu yn y gymuned mewn lleoedd fel practisiau meddygon teulu ac optegwyr.

Fel rhan o'r ymgyrch, gofynnir i'r rhai sy'n darparu gofal a chymorth i bobl sydd ag anabledd dysgu helpu i gwblhau Proffiliau Iechyd. Mae teulu, ffrindiau, gofalwyr a staff cymorth sy'n eirioli ar ran pobl sydd ag anghenion ychwanegol yn aml yn chwarae rhan hanfodol wrth eu helpu i gael mynediad at wasanaethau iechyd.


Dylai staff sy’n darparu gwasanaethau gofal wneud y canlynol:

  • Gofyn am Broffil Iechyd pan fydd yn cwrdd â pherson sydd ag anabledd dysgu am y tro cyntaf.
  • Bod yn glir gyda chydweithwyr trwy roi gwybod iddynt pan fydd Proffil Iechyd ar gael.
  • Gwirio a yw'r wybodaeth yn gyfredol trwy ofyn i'r unigolyn neu'r unigolyn y mae'n gweithio gydag ef.
  • Lawrlwytho’r templed Proffil Iechyd a helpu i'w gwblhau os nad oes gan unigolyn un yn barod.

Eglurodd Beth Williams, Nyrs Gofrestredig Anabledd Dysgu a Rheolwr Gwella yn Gwelliant Cymru, bwysigrwydd y Proffil Iechyd.

Dywedodd hithau: “Pan fydd rhywun ag anabledd dysgu yn ymweld ag ysbyty neu amgylchedd meddygol, gallant gael anhawster i fynegi'r hyn sydd ei angen arnynt a allai effeithio ar y gofal a gânt.

“Mae'r Proffil Iechyd yn ei gwneud hi'n haws i bobl sydd ag anabledd dysgu gyfathrebu eu hanghenion. Mae hyn yn gwella eu profiadau wrth gael mynediad at wasanaethau ac mae'n eu helpu i dderbyn gofal iechyd diogel pan fydd ei angen arnynt.

“Mae yna lawer o fanteision i'r Proffil Iechyd. Mae pobl sydd ag anabledd dysgu wedi dweud wrthym fod sawl ffordd y gall staff gofal iechyd wneud addasiadau rhesymol ar ôl darllen eu Proffil Iechyd, sy’n cael ei gydnabod fel yr offeryn i’w ddefnyddio ledled Cymru.”

Mae pobl sydd ag anabledd dysgu yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd y gellir eu hosgoi, oedi o ran triniaeth, a marwolaethau cynamserol a/neu y gellir eu hosgoi. Nod y Proffil Iechyd yw grymuso'r gymuned i rannu gwybodaeth bwysig am ei hiechyd yn hawdd.


Ydych chi eisiau cwblhau Proffil Iechyd? Gallwch lawrlwytho'r templed yn: www.improvementcymru.net/proffil-iechyd.

Mae'r ystod o adnoddau ar-lein yn cynnwys canllaw ar lenwi eich Proffil Iechyd eich hun, a Nodiadau Cyfarwyddyd i deuluoedd a gofalwyr.