1 Hydref 2025
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi lansio'r mesurau ansawdd cyntaf ar gyfer y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd (QOF).
Mae'r Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd wedi'i gynllunio i olrhain pa mor dda y mae gwasanaethau'r GIG yn perfformio mewn meysydd allweddol fel gofal diabetes, rheoli heintiau a phrofiad y claf. Drwy ddod â gwybodaeth ynghyd mewn un lle, bydd mesurau ansawdd y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd yn helpu i leihau amrywiad ar draws GIG Cymru drwy ei gwneud hi'n haws i sefydliadau weld beth sy'n gweithio'n dda - a lle mae angen gwella pethau i gleifion.
Dywedodd Nicola Williams, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio, Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddor Iechyd, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre:
“Mae datblygu Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd yn gam pwysig wrth helpu GIG Cymru i barhau i wella ansawdd gofal a chanlyniadau i’n poblogaeth. Bydd y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd yn parhau i aeddfedu a datblygu fel ei fod yn darparu ffordd glir a chyson o ddeall sut mae gwasanaethau'n perfformio ar draws gwahanol feysydd, gyda ffocws cryf ar gadw cleifion yn ddiogel a gwella eu canlyniadau iechyd.
Ychwanegodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro, Ansawdd, Diogelwch a Gwella:
“Rydym yn falch o lansio’r Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd heddiw - mae’n gam sylweddol ymlaen o ran darparu golwg gyson, lefel uchel ar ansawdd a diogelwch ar draws GIG Cymru. Mae'r Fframwaith newydd yn adeiladu ar ein gwaith i alluogi arweinwyr i reoli ansawdd drwy adnabod, monitro a dysgu o feysydd allweddol i'w gwella, a sicrhau canlyniadau gwell i gleifion a sbarduno cynnydd parhaus.”
Rydym wedi gweithio'n agos gyda nifer o dimau a sefydliadau ar draws GIG Cymru a Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd a byddwn yn parhau i wneud hynny wrth ddatblygu'r cam nesaf.
Mae lansio mesurau ansawdd y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd (QOF) yn dangos ymrwymiad i ddarparu gofal mwy diogel a thecach sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ledled Cymru, a sicrhau bod gwella ansawdd wedi'i wreiddio ar bob lefel o'r GIG. Mae hyn yn unol â'r "Ddyletswydd Ansawdd" sy'n golygu bod gan bob sefydliad gofal iechyd gyfrifoldeb cyfreithiol i weithio er mwyn ceisio gwella safon y gwasanaethau.
Darllenwch ragor am y Fframwaith ar gyfer Canlyniadau o Ansawdd yma.