Mae timau ledled GIG Cymru wedi dechrau gweithio i wella dibynadwyedd y ffordd y maent yn ymateb i gleifion sy'n mynd yn fwyfwy sâl.
Roedd cynrychiolwyr o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn bresennol yn sesiwn ddysgu gyntaf ffrwd waith Dirywiad Acíwt y Bartneriaeth Gofal Diogel a fydd yn cefnogi timau ledled GIG Cymru i wella dibynadwyedd eu systemau uwchgyfeirio wrth ymateb i ddirywiad acíwt, gan wneud gofal yn fwy diogel.
Drwy’r Bartneriaeth Gofal Diogel, mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi sefydliadau GIG Cymru i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ansawdd a diogelwch.
Mae ei ffrwd waith Dirywiad Acíwt yn ategu gweithredu’r Sgorau Rhybudd Cynnar (EWS) ar draws pob oedran. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau fod wedi cyflawni’r rhain erbyn 30 Medi 2025, gyda chefnogaeth y Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt (APDI).
Yn ystod y sesiwn ddysgu, rhannodd timau eu cynnydd wrth weithredu’r Sgorau Rhybudd Cynnar a thrafodwyd y llwyddiannau a’r heriau y daethant ar eu traws. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan y siaradwr gwadd, Duncan Smith, Uwch Ddarlithydd a Nyrs Ymgynghorol Anrhydeddus yn City St George’s, Prifysgol Llundain. Bu’n siarad am y cyfle i ddefnyddio gwyddor ymddygiad i gefnogi gweithredu'r Sgorau Rhybudd Cynnar gan fyfyrio ar yr ymyriad OPTIMISE-NEWS a ddatblygodd yn seiliedig ar ymchwil a wnaeth mewn ysbytai.
Yn ogystal â hyn, dechreuodd timau ystyried meysydd posibl i ganolbwyntio arnynt er mwyn gwella dibynadwyedd eu systemau uwchgyfeirio yn rhan o ffrwd waith y Bartneriaeth Gofal Diogel.
Dywedodd Dr Clare Dieppe, Arweinydd Clinigol ar gyfer y Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt: “Roedd y sesiwn ddysgu yn gyfle gwych i dimau ledled Cymru rannu eu cynnydd rhagorol wrth weithredu Sgorau Rhybudd Cynnar ar draws pob oedran a thrafod yr heriau a’r llwyddiannau y maen nhw wedi’u hwynebu wrth wneud hynny.
“Roedd yn wych clywed am waith Duncan. Er bod hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o'r Sgorau Rhybudd Cynnar yn sylfaen hanfodol ar gyfer ymateb i ddirywiad acíwt, tynnodd sylw at y ffaith fod angen dull ehangach er mwyn cyflawni gweithrediad llwyddiannus ac uwchgyfeirio cyson. Mae ei waith wedi rhoi rhywbeth i dimau gnoi cil arno o ran y gwahanol ddulliau a methodolegau y gallent eu hystyried.”
“Mae rhwydwaith APDI yn edrych ymlaen yn fawr at barhau i gefnogi timau ar eu taith i weithredu’r sgorau’n llawn erbyn diwedd mis Medi. Bydd yn rhoi sylfaen bwysig i’r gwaith sydd o’u blaenau i wella eu systemau uwchgyfeirio cyffredinol.”
Ychwanegodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro, Ansawdd, Diogelwch a Gwella: “Mae gwella sut mae timau ledled GIG Cymru yn atal, nodi, uwchgyfeirio ac ymateb i ddirywiad acíwt yn flaenoriaeth allweddol genedlaethol o ran gwella ansawdd a diogelwch.
“Yn dilyn gweithredu Sgorau Rhybudd Cynnar, rydym yn edrych ymlaen at gefnogi timau drwy’r Bartneriaeth Gofal Diogel i wella dibynadwyedd systemau uwchgyfeirio yn eu sefydliadau, er mwyn sicrhau’r gofal mwyaf diogel posibl i bobl Cymru.”
Ar hyn o bryd mae gan y Bartneriaeth Gofal Diogel bedair ffrwd waith a phob un yn mynd i'r afael â blaenoriaeth genedlaethol i wella ansawdd a diogelwch.
Mae’r ffrydiau gwaith, ochr yn ochr â dirywiad acíwt, yn canolbwyntio ar atal dadgyflyru, mynd i'r afael â chyfraddau cynyddol Clostridioides difficile (C. diff) a chefnogi sefydlu Systemau Rheoli Ansawdd effeithiol yn unol â'r Ddyletswydd Ansawdd.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalennau gwe ein Partneriaeth Gofal Diogel.