Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen gymorth newydd i sefydlu Systemau Rheoli Ansawdd (QMS) prototeip ar gyfer GIG Cymru

Mae gan dimau ar draws GIG Cymru y cyfle i lunio dull newydd ac effeithiol o reoli ansawdd gofal iechyd.

Gall timau o gyfarwyddiaethau, arbenigeddau a grwpiau gofal wneud cais i ymuno â'r Rhaglen Gymorth newydd ar gyfer Systemau QMS Prototeip a lansiwyd yr wythnos diwethaf. Nod y rhaglen yw eu helpu i ddylunio, profi a chyflwyno System Rheoli Ansawdd (QMS).

Mae systemau QMS yn dwyn ynghyd cynllunio ansawdd, gwella ansawdd, rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd i reoli ansawdd yn systematig mewn sefydliadau. Bydd cyflawni QMS effeithiol yn darparu fframwaith gweithredu a fydd yn arwain at ofal o ansawdd uchel yn barhaus, yn ddibynadwy ac yn gynaliadwy.

Wedi'i gyflwyno fel rhan o bartneriaeth QMS Perfformiad a Gwella GIG Cymru gyda Q, cymuned sy'n gweithio ar y cyd i gyflymu gwelliant mewn iechyd a gofal, a’r Clinig Gwella Ansawdd (QIC), bydd y Rhaglen Gymorth ar gyfer Systemau QMS Prototeip yn rhoi mynediad i ddau dîm llwyddiannus at amrywiaeth o hyfforddiant, arweiniad a chyngor arbenigol i gefnogi eu taith QMS tan fis Mehefin 2027.

Yn rhan o ffrwd waith Arweinwyr Dyletswydd Ansawdd y Bartneriaeth Gofal Diogel, mae'r rhaglen gymorth yn anelu at greu enghreifftiau go iawn o adeiladu Systemau Rheoli Ansawdd effeithiol yng ngwasanaethau'r GIG, a fydd yn darparu dysgu, mewnwelediadau a dulliau cyfoethog i'w mabwysiadu gan eraill.

Bydd datblygu'r prototeipiau hefyd yn profi’r fframwaith a methodoleg Datblygu Systemau Rheoli Ansawdd a gyhoeddwyd gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru ym mis Chwefror 2025, ac yn llywio sut y caiff ei lunio ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn cyflwyno’r cynnig cymorth newydd hwn. Gobeithiwn y bydd yn darparu catalydd i sefydliadau ledled GIG Cymru sefydlu System Rheoli Ansawdd effeithiol.

“Mae ymgorffori System Rheoli Ansawdd yn gyfle gwirioneddol i dimau ledled GIG Cymru gyflawni gofal cyson o ansawdd uchel yn hyderus ac yn systematig, er gwaethaf yr heriau a achosir gan gymhlethdod ein systemau gofal iechyd a’r pwysau gweithredol dwys y maent yn eu hwynebu bob dydd.

“Gyda mewnbwn arbenigol ein partneriaid yng nghymuned Q a QIC, rydym yn gyffrous iawn i gefnogi byrddau iechyd ar eu taith QMS. Mae hwn yn gyfle i fanteisio ar y momentwm gwirioneddol y gallwn ei weld yn datblygu i gyflawni gofal iechyd o’r ansawdd uchaf i bobl Cymru.”

Cynyddu Cymorth QMS

Mae’r Rhaglen Gymorth ar gyfer Systemau QMS Prototeip (QMS) yn un o nifer o ddulliau sy'n cael eu cymryd drwy'r bartneriaeth i gefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ymgorffori system QMS effeithiol, sy'n ofyniad o dan y Ddyletswydd Ansawdd.

Lansiwyd y cynnig yng nghyfarfod cyntaf Rhwydwaith Dysgu a Chyflenwi newydd ar gyfer Systemau Rheoli Ansawdd (QMS). Mae’r rhwydwaith yn cynnwys grŵp o uwch gydweithwyr ledled GIG Cymru a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth sefydlu QMS yn eu sefydliadau. Byddant yn rhannu syniadau a phrofiadau, ac yn dysgu a gwneud cynnydd gyda'i gilydd.

Ochr yn ochr â Sesiynau Datblygu Bwrdd, sydd wedi cael eu cynnig i Fyrddau ledled GIG Cymru i lunio arweinyddiaeth o amgylch ansawdd, mae gweithgarwch pellach yn cynnwys datblygiad parhaus yr Hwb QMS sy’n cynnwys offer, adnoddau ac enghreifftiau o arferion da, a chynhyrchu pecynnau addysg newydd ar gyfer staff.

Dywedodd Dr Matthew Hill, Pennaeth Mewnwelediad, Gwerthuso ac Ymchwil, Q, ac Nicola Davey, Cyfarwyddwr, Clinig Gwella Ansawdd: “Rydym wrth ein bodd yn gweithio gyda Pherfformiad a Gwella GIG Cymru i gefnogi datblygiad QMS ledled y wlad. Rydym wedi gweld y nifer o fanteision y gall dull mwy cyson a chydlynol o reoli ansawdd eu cynnig i staff, perfformiad ac, yn bwysicaf oll, i ofal cleifion.

“Mae’r Rhaglen Gymorth ar gyfer Prototeipiau yn cynnig cyfle gwych i weithio ochr yn ochr â dau dîm i ddatblygu System Rheoli Ansawdd sy’n adeiladu ar eich cryfderau, yn gweddu i’ch cyd-destun ac sydd wir yn diwallu anghenion eich sefydliad a’r boblogaeth”

Ewch i dudalennau gwe’r Bartneriaeth Gofal Diogel i gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau i ymgorffori QMS effeithiol.