3 Rhagfyr 2024
Gwelliant Cymru a’r gwneuthurwr cerbydau Toyota yn ehangu eu gwaith i leihau’r amser rhwng amheuaeth o ganser a thriniaeth.
Bydd timau patholeg gellog ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCAF), Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (BIPHDd) yn gweithio i leihau’r amser a gymerir i gael diagnosis o ganser i gleifion yng Nghymru gan ddefnyddio methodoleg ddarbodus.
Ers mis Hydref 2022, mae dros 100 aelod o staff ar draws GIG Cymru wedi cwblhau hyfforddiant ar System Gynhyrchu Toyota (TPS), sef fersiwn Toyota o fethodoleg ddarbodus. Roedd y cyfranogwyr yn cynnwys saith tîm amlddisgyblaethol ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB), Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA). Roedd y gwaith hwn yn rhan o brosiect Llwybrau Lle’r Amheuir Canser, a ariannwyd gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser ac a weithredwyd mewn partneriaeth â Toyota.
Trwy ddull fesul cam, cymerodd staff egwyddorion o System Gynhyrchu Toyota i gynyddu cyflymder a dibynadwyedd cam diagnostig cynnar y llwybr canser. Mae elfennau diagnostig o’r llwybrau yn aml yn rheswm canolog dros oedi wrth wneud penderfyniad i drin. Mae hyn yn effeithio ar lesiant cleifion a chanlyniadau clinigol, felly roedd yn ddoeth dechrau gyda’r cam hwn.
Roedd y ddau gam cyntaf yn canolbwyntio ar 28 diwrnod cyntaf y llwybrau canser ar gyfer canserau Gastro-Berfeddol Isaf (GI), Wroleg, Gynaecolegol a'r Ysgyfaint, sy'n cwmpasu'r pwynt o amheuaeth i benderfyniad i drin. Adolygwyd meysydd gan gynnwys rheoli atgyfeirio a mynediad diagnostig.
Yn ystod cam tri, ehangodd y prosiect ei ffocws ar batholeg gellog, maes â phrosesau sydd fwyaf tebyg i’r rhai mewn ffatri weithgynhyrchu. Roedd rheolaeth weledol, safoni a’r 5S yn feysydd ffocws a oedd yn gyffredin ar draws y tri labordy patholeg gellog.
Cefnogwyd staff gan gydweithwyr o Gwelliant Cymru i ddatblygu a phrofi eu syniadau newid trwy ddull dysgu gan gymheiriaid.
Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro ar gyfer Ansawdd, Diogelwch a Gwella: “Gwelwyd llawer o welliannau o fewn gwahanol fyrddau iechyd o ganlyniad i’r gwaith hwn. Fe wnaeth un bwrdd iechyd sy’n edrych ar ganser GI Isaf sicrhau lleihad o 15 diwrnod yn yr amser y mae’n ei gymryd i unigolyn gael gwybod a oes ganddo ganser yn dilyn ei apwyntiad claf allanol cyntaf. Mae bwrdd iechyd arall wedi haneru’r amser y mae’n ei gymryd i gleifion ag atgyfeiriad brys lle'r amheuir canser (USC) gael apwyntiad ar gyfer sgan MRI.
“Gwnaeth un bwrdd iechyd hefyd ddefnyddio methodoleg 5S (Saesneg yn unig) mewn clinig un stop Wroleg. Mae staff bellach yn treulio ychydig dros 17 munud yr wythnos yn gwneud gwaith rheoli stoc o’i gymharu â’r ddwy awr a mwy cyn hynny, sy’n byrhau amser triniaeth glinigol.
“O ganlyniad i'r gwaith a wnaed ar draws labordai patholeg gellog dethol, mae samplau cleifion yn cael eu prosesu'n gyflymach. Adroddodd un labordy'r potensial i brosesu dros 500 o samplau'r dydd gan fod amser prosesu trosglwyddo meinwe wedi mwy na haneru a gwallau wrth ddyrannu hefyd wedi haneru.
“Mae’n galonogol gweld cymaint o welliannau’n cael eu gweithredu mewn labordai a byrddau iechyd ledled Cymru diolch i’r gwaith rydyn ni wedi’i gefnogi gyda Toyota. Mae'r gwaith hwn yn ein helpu i gyrraedd y prif darged o leihau amseroedd aros i gleifion yr amheuir bod canser arnynt. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda hyd yn oed mwy o dimau ledled Cymru i ledaenu a chynyddu’r datblygiadau hyn a nodi hyd yn oed mwy o welliannau y gellir eu gwneud o fewn y system”, ychwanegodd Dominque.
Diolch i dimau sy'n profi y gall methodoleg ddarbodus fod yn fuddiol o fewn y maes patholeg gellog, mae'r dull hwn - a elwir yn gam 4 - yn cael ei gyflwyno yn y tri labordy patholeg gellog arall yn BIPCAF, BIPCTM a BIPHDd. Ein cam nesaf yw ffurfio Menter Gydweithredol Patholeg Gellog Cymru Gyfan, y gyntaf o'i math.
Mae mentrau cydweithredol wedi cael eu defnyddio i wella gofal iechyd ers dros 20 mlynedd ledled y byd. Mae menter gydweithredol yn fodel dysgu sy'n creu strwythur i sefydliadau ddysgu'n hawdd oddi wrth ei gilydd a chan arbenigwyr cydnabyddedig mewn meysydd pwnc lle maent am wneud gwelliannau.
Y gobaith yw y bydd y fenter gydweithredol 12 mis yn dangos pwysigrwydd patholeg gellog fel rhan o gam diagnostig y Llwybr Lle’r amheuir Canser. Mae hyn yn cynnwys optimeiddio rheoli pobl sy'n byw gyda chanser a 'phobl iach ond yn poeni' a all ddirywio a dioddef niwed pan fydd oedi cyn gwneud diagnosis.
Byddwn yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ar y fenter gydweithredol, a'n gwaith ar y llwybrau canser, ar ein gwefan.