Neidio i'r prif gynnwy

Sbotolau ar ofal strôc amserol: prosiect arobryn wedi'i gyhoeddi yn BMJ Open Quality

19 Mai 2025


Rydym yn falch o dynnu sylw at waith gwella arobryn Dr Manju Krishnan, Meddyg Strôc Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Roedd ei phrosiect yn canolbwyntio ar wella amseroldeb a diogelwch mewnosodiadau tiwbiau nasogastrig (NG) ar gyfer cleifion strôc – sydd bellach wedi’i gyhoeddi yn BMJ Open Quality.

Yn 2023-24, cwblhaodd Manju raglen Arweinydd Gwelliant yr Alban (ScIL) gydag Academi Gwelliant Cymru. Fel rhan o'i dysgu, arweiniodd brosiect i leihau oedi wrth fewnosod tiwbiau NG, ymyrraeth hanfodol i gleifion strôc na allant lyncu'n ddiogel.

Gan weithio gyda'i thîm, gweithredodd Dr. Krishnan ddull strwythuredig a oedd yn cynnwys:

  • Sesiynau addysg ac ymwybyddiaeth staff.
  • Offeryn gwneud penderfyniadau i gefnogi trafodaethau ynghylch buddion a risg.
  • Cyfarfodydd tîm amlddisgyblaethol (MDT) rheolaidd i fonitro cynnydd.
Ciplun o'r canlyniadau:
  • Gostyngwyd amser mewnosod NG o 5.2 awr i 1.7 awr yn dilyn penderfyniad y Tîm Amlddisgyblaethol.
  • Gwellodd dogfennu trafodaethau ynghylch buddion a risg o 0% i 80%.
  • Cyrhaeddodd defnyddio offeryn penderfynu NG 80%, a rhagori ar y nod o 50%.
  • Dywedodd 90% o staff fod y newidiadau wedi gwella gofal heb gynyddu'r llwyth gwaith.

Rhoddodd yr hyfforddiant gwella y lle a’r gefnogaeth i mi arwain y gwaith hwn yn hyderus. Rydym wedi gwneud gwahaniaeth parhaol i sut rydym yn rheoli risg strôc - ac i ofal cleifion.” - Manju Krishnan

Cafodd prosiect Manju ei gydnabod fel y Prosiect Gwella Ansawdd Gorau yn ei charfan ScIL ac aeth ymlaen i ennill Gwobr Gofal Amserol GIG Cymru yn 2024 am ddangos rhagoriaeth mewn gwella ansawdd.

Mae'r gwaith hefyd wedi ennill cydnabyddiaeth ryngwladol: mae wedi'i dderbyn fel cyflwyniad poster yng Nghynhadledd Sefydliad Strôc Ewrop sydd ar ddod, gyda'r crynodeb i'w gyhoeddi yn y European Journal of Stroke.

Roedd y cwrs ScIL yn cael ei gyflwyno’n flaenorol mewn partneriaeth gan Gwelliant Cymru ac Addysg GIG yr Alban. Gan adeiladu ar ei lwyddiant, mae Academi Gwelliant Cymru bellach yn cynnig portffolio cynyddol o gyrsiau hyfforddi gwella - sy’n cynnwys Ymgynghorydd Gwelliant Cymru (IAC), rhaglen dan arweiniad Cymru yn unig - i arfogi gweithwyr proffesiynol ledled Cymru â'r sgiliau i arwain newid ystyrlon.

Llongyfarchiadau i Manju a'r tîm am eu hymrwymiad i ofal strôc mwy diogel a mwy amserol.

Darllenwch y prosiect llawn: BMJ Open Quality – Erthygl Gyhoeddedig
Cysylltwch â Manju: Manju.Krishnan@wales.nhs.uk