Mae Cyfarwyddiaeth Amenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (Bae Abertawe) a Chyfarwyddiaeth Cardiothorasig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (BIPCF) wedi cael eu dewis i gymryd rhan mewn rhaglen gymorth newydd i sefydlu System Rheoli Ansawdd (QMS).
Bydd y Rhaglen Gymorth ar gyfer Systemau QMS Prototeip, sy’n cael ei chynnig gan Berfformiad a Gwella GIG Cymru (P&GGIG) mewn partneriaeth â Q, cymuned sy'n cyflymu gwelliant iechyd a gofal ar y cyd, a'r Clinig Gwella Ansawdd (QIC), yn cefnogi'r timau i sefydlu dull strwythuredig o reoli ansawdd yn eu gwasanaethau.
Yn rhan o ffrwd waith Arweinwyr Dyletswydd Ansawdd y Bartneriaeth Gofal Diogel, mae'r rhaglen gymorth yn anelu at helpu'r timau a ddewiswyd i ddatblygu, gweithredu a phrofi egwyddorion System Rheoli Ansawdd (QMS) yn eu meysydd. Mae ffocws allweddol ar dynnu dulliau o gynllunio, gwella, sicrhau a rheoli ansawdd ynghyd, er mwyn creu systemau dysgu sy'n darparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Mae Cyfarwyddiaeth Amenedigol Bae Abertawe yn darparu gofal yn ystod tua 3,500 o enedigaethau bob blwyddyn ac mae ganddi uned newyddenedigol drydyddol sy'n gwasanaethu de Cymru. Mae'r tîm eisoes wedi dechrau ar ei daith System Rheoli Ansawdd, trwy ddefnyddio fframwaith a methodoleg Datblygu System Rheoli Ansawdd a gyhoeddwyd gan P&GGIG ym mis Chwefror i gryfhau sicrwydd a gwelliant yn dilyn adolygiad annibynnol a phroses fonitro well.
Mae Cyfarwyddiaeth Cardiothorasig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn darparu gofal llawfeddygol ac anlawfeddygol i gleifion â chyflyrau cardiofasgwlaidd a thorasig. Yn wyneb heriau sy'n ymwneud ag ansawdd a phrofiad cleifion, mae'r tîm yn defnyddio'r rhaglen gymorth fel cyfle i adeiladu dull strwythuredig o reoli ansawdd, ac i greu model cynaliadwy ar gyfer gwelliant parhaus.
Dywedodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Perfformiad a Gwella GIG Cymru: “Ochr yn ochr â’n partneriaid yn Q a QIC, rydym wrth ein bodd yn croesawu’r timau i’r rhaglen gymorth gyffrous newydd hon.
“Yn eu ceisiadau, cyflwynodd y ddau dîm achosion cymhellol o ran sut y gall y cymorth hwn eu helpu i ddarparu gofal mwy diogel ac o ansawdd uwch. Roeddynt hefyd yn gallu dangos bod ganddynt y capasiti a’r gefnogaeth y bydd eu hangen arnynt yn eu sefydliadau i wneud y gorau o’r cyfle hwn.
“Gwnaeth yr angerdd gwirioneddol a ddangoswyd gan dîm Cyfarwyddiaeth Amenedigol Bae Abertawe dros wella ansawdd yn eu gwasanaeth argraff arnom, ac mae eu taith QMS eisoes wedi dechrau. Dangosodd tîm Cyfarwyddiaeth Cardiothorasig Caerdydd a’r Fro gydnabyddiaeth glir o’r heriau y maent am fynd i’r afael â nhw trwy ddatblygu system QMS.
“Mae potensial go iawn i ni nodi a rhannu dysgu cyfoethog ar y cyd, a all gefnogi sefydlu System Rheoli Ansawdd effeithiol mewn sefydliadau ledled GIG Cymru. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi timau Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro ar eu taith.”
Dywedodd Nicola Davey, Cyfarwyddwr Clinig Gwella Ansawdd a Libby Keck, Pennaeth Dylunio a Chydweithio/Rhwydwaith Labordai, Q: “Rydym wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth â Pherfformiad a Gwella GIG Cymru ar y Rhaglen Gymorth ar gyfer Systemau QMS Prototeip. Mae'r rhaglen hon yn cynnig cyfle gwerthfawr i weithio ochr yn ochr â thimau rheng flaen wrth iddynt ddatblygu dulliau ymarferol a chynaliadwy o reoli a gwella ansawdd. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gefnogi timau Bae Abertawe a Chaerdydd a'r Fro, i ddysgu gyda nhw wrth i'w teithiau ddatblygu, a rhannu mewnwelediadau a all fod o fudd i wasanaethau iechyd a gofal ledled Cymru.”
Bydd y rhaglen gymorth yn rhedeg tan fis Mehefin 2027 a bydd yn cynnwys gweithdai, hyfforddiant a dysgu gan gymheiriaid.
Bydd cynnydd a dysgu pob tîm yn cael eu dogfennu ar wefan Perfformiad a Gwella GIG Cymru, gan gyfrannu at yr uchelgais ehangach o ymgorffori egwyddorion QMS ledled gwasanaethau iechyd a gofal.
Os hoffech ragor o wybodaeth am QMS yn GIG Cymru, yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau, gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol, ewch i'n Hwb QMS.