Neidio i'r prif gynnwy

Y Bartneriaeth Gofal Diogel yn Dechrau ar Gam Newydd

Mae cam newydd y Bartneriaeth Gofal Diogel ar y gweill. Bydd yn darparu mecanwaith ar ei newydd wedd ar gyfer cyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch allweddol ar draws GIG Cymru.

Bydd cam newydd y bartneriaeth yn dod â phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ynghyd i gyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch cenedlaethol ar y cyd a bennir gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, Gweithrediaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.

Y meysydd blaenoriaeth cychwynnol yw datgyflyru a dirywiad acíwt, ochr yn ochr â ffrwd waith Arweinwyr y Ddyletswydd Ansawdd a fydd yn cefnogi sefydlu Systemau Rheoli Ansawdd ar draws GIG Cymru.  

Bydd y bartneriaeth ar ei newydd wedd yn un ddeinamig, ac yn ymateb i flaenoriaethau cyffredin wrth iddynt ddod i'r amlwg. Mae cynlluniau ar gyfer cyflwyno llif gwaith pellach yn ddiweddarach eleni a fydd yn canolbwyntio ar heintiau sy’n gysylltiedig â gofal iechyd.

Mae rhaglen hyfforddi Arwain ar gyfer Gwella Ansawdd a Diogelwch (LQSI) newydd hefyd yn cael ei chyflwyno, a fydd yn creu fforwm cymheiriaid dysgu cymdeithasol ar gyfer cydweithwyr sy'n arwain y gwaith o gyflawni gwelliant fel rhan o'r bartneriaeth.

Dywedodd Sue Tranka, y Prif Swyddog Nyrsio: “Bydd y Bartneriaeth Gofal Diogel newydd hon yn ddull pwysig o gyflawni blaenoriaethau ansawdd a diogelwch cenedlaethol sydd wedi’u nodi gyda’i gilydd gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, Gweithrediaeth GIG Cymru a Llywodraeth Cymru.  

“Mae gennym llawer iawn o dalent yn GIG Cymru, ac mae cam newydd y Bartneriaeth Gofal Diogel yn gyfle hollbwysig i ni ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ein hymdrechion ar y cyd i sicrhau newid cynaliadwy a fydd yn rhoi ansawdd wrth wraidd gofal iechyd.  

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynnydd rhagorol y gwn y gallwn ei wneud yn y misoedd nesaf.”

Adeiladu ar sylfeini cryf

Wedi'i sefydlu ym mis Mawrth 2022, daeth cam cyntaf y Bartneriaeth Gofal Diogel i ben gyda diwedd y Gydweithredfa Gofal Diogel yn haf 2024.

Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi adeiladu ar y dysgu, y mewnwelediadau a’r llwyddiannau hyd yma. Yn ogystal â hynny, mae wedi cyd-ddylunio cam newydd y bartneriaeth gyda chydweithwyr ar draws GIG Cymru, cyfranwyr cyhoeddus sy'n cynrychioli defnyddwyr gwasanaethau a'r boblogaeth ehangach, a rhanddeiliaid allweddol eraill.

Mae gwaith ffrydiau gwaith newydd y bartneriaeth eisoes wedi dechrau a chyhoeddwyd fframwaith a methodoleg newydd yn ddiweddar i gefnogi mabwysiadu Systemau Rheoli Ansawdd ym maes gofal iechyd

Mae dros 30 o brosiectau wedi cael eu derbyn i gydweithredfa ddysgu yn ffrwd waith datgyflyru'r bartneriaeth. Bydd y gydweithredfa yn adeiladu ar waith Rhaglen Genedlaethol y Chwe Nod, a bydd timau'n gweithio ar y cyd i nodi gwelliannau cynaliadwy er mwyn atal datgyflyru.  

Bydd y ffrwd waith dirywiad acíwt yn cefnogi'r gwasanaeth i wella systemau uwchgyfeirio a sefydlu gwasanaethau Call 4 Concern ledled Cymru. Bydd yn ategu gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud gan fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau a gefnogir gan y Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt newydd i weithredu Sgorau Rhybudd Cynnar ar draws pob ystod oedran.

Dywedodd Dom Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro ar gyfer Ansawdd, Diogelwch a Gwella: “Mae cyfuno’r dysgu a’r mewnwelediadau cyfoethog o gam cyntaf y bartneriaeth â safbwyntiau ac arbenigedd cydweithwyr y GIG, aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol eraill drwy ein gweithgarwch cyd-ddylunio wedi darparu sylfeini anhygoel o gryf ar gyfer y Bartneriaeth Gofal Diogel yn y dyfodol.

“Does dim dwywaith bod heriau’n parhau i ni ledled GIG Cymru, ac mae llawer o waith o’n blaenau yn y meysydd blaenoriaeth rydyn ni wedi’u nodi ar y cyd. Fodd bynnag, mae cam newydd y Bartneriaeth Gofal Diogel yn cynnig cyfle gwirioneddol a mecanwaith bwysig i ni gyflawni newid ystyrlon, er budd staff a phobl Cymru.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Bartneriaeth Gofal Diogel, gan gynnwys gwybodaeth am ei cham cyntaf a'r meysydd ffocws cyfredol, ewch i dudalennau gwe'r bartneriaeth.