13 Mawrth 2025
Mae sicrhau tegwch ym maes iechyd a gofal yn golygu sicrhau bod gan bawb fynediad at wasanaethau diogel o ansawdd uchel, ac sy’n canolbwyntio ar y rhai â'r angen mwyaf. Er hynny, mae anghydraddoldebau systemig, ac annhegwch yn parhau, ac yn effeithio ar ganlyniadau a phrofiadau cleifion. O addysg feddygol i ymarfer clinigol, mae cynrychiolaeth yn chwarae rhan hanfodol mewn diagnosis cywir a phrydlon, yn dylanwadu ar gyfraddau goroesi, yn llunio canfyddiadau ynghylch sut mae afiechydon yn effeithio ar wahanol grwpiau, ac yn cryfhau gweithlu gofal iechyd sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein cymunedau.
Ar 26 Mawrth 2025, bydd Gweithrediaeth GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal uwchgynhadledd rithwir Y Ras at Degwch: Hyrwyddo Iechyd a Gofal i Bawb. Bydd yr uwchgynhadledd yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer system gofal iechyd decach a mwy cynhwysol. Bydd y digwyddiad, a gefnogir gan Labordy Q Cymru a Rhwydwaith Amrywiaeth REACH, yn dod â gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol, llunwyr polisi, addysgwyr, ac unigolion sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol mewn hyrwyddo tegwch ynghyd.
Ymhlith y siaradwyr mae Chidiebere Ibe, darlunydd meddygol a gydnabyddir yn fyd-eang. Roedd ei ddarlun enwog yn 2021 o ffetws du yn tanlinellu pwysigrwydd cynrychiolaeth mewn addysg feddygol. Ond y tu hwnt i'r gwaith celf, mae ei genhadaeth yn glir: i greu system gofal iechyd sy'n gweld ac yn gwasanaethu pawb yn gyfartal.
“Os nad yw unigolion yn gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli, fe all wneud iddyn nhw deimlo’n anweledig ac yn anhysbys,” eglura Chidiebere. “Mae cynrychiolaeth yn llunio diogelwch cleifion, diagnosis, ac ymddiriedaeth yn y system.”
Bydd yr uwchgynhadledd hefyd yn cynnwys Star Moyo, Arbenigwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a fydd yn archwilio effaith trawma a'i gysylltiadau ag anghydraddoldebau iechyd.
Mae Rhwydwaith Amrywiaeth REACH – menter o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru – yn gweithio i wreiddio arferion cynhwysol ar draws iechyd a gofal, ac yn sicrhau bod lleisiau amrywiol yn helpu i lunio polisi, addysg, a darpariaeth gwasanaethau.
“Rydyn ni’n gwybod bod cynrychiolaeth mewn gofal iechyd yn mynd y tu hwnt i ddelweddau - mae’n ymestyn i ymchwil, polisi, ac ymarfer,” meddai Des Brown ac Oghogho Orife, cyd-gadeiryddion Rhwydwaith REACH. “Dyna pam mae sgyrsiau fel hyn yn bwysig. Maen nhw'n ein gwthio i ailfeddwl sut rydyn ni'n ymdrin â diogelwch, tegwch a chynhwysiant ar draws iechyd a gofal."
Mae uwchgynhadledd Y Ras at Degwch yn agored i unigolion sydd â diddordeb proffesiynol neu bersonol mewn hyrwyddo tegwch mewn iechyd a gofal. Cofrestrwch heddiw a dewiswchsesiwn grŵp sy'n cyd-fynd orau â'ch maes diddordeb:
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel arbenigol ar adeiladu system gofal iechyd gynhwysol sy'n ddiwylliannol gymwys.
Dyddiad: 26 Mawrth 2025
Amser: 10am – 1pm
Platfform: MS Teams: Cofrestrwch yma.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Sue Loizos.