Ar hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ar lefel uwchgyfeirio 4 o fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru.
Ym mis Mawrth 2026, o ganlyniad i bryderon cynyddol, gofynnodd Llywodraeth Cymru i Berfformiad a Gwella GIG Cymru (PaG Gig Cymru) arwain ymyriad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, a fyddai'n cynnwys dau gyfnod, sef cyfnod gwerthuso a chyfnod cyflawni.
Heddiw, mae’r asesiad annibynnol (cyfnod gwerthuso) o BIP Caerdydd a'r Fro, a gynhaliwyd gan ddau Gynghorydd Annibynnol, yn cael ei gyhoeddi.
Bydd tîm Cymorth Dwys, Adfer a Gwyrdroi PaG GIG Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a BIP Caerdydd a'r Fro i gefnogi'r sefydliad i gyflawni argymhellion yr adroddiad, a'r gwelliant angenrheidiol yn ystod cyfnod cyflawni'r ymyriad.
Darllenwch y adroddiad isod neu cliciwch y ddolen i'w lawrlwytho.