Neidio i'r prif gynnwy

Cynllunio Gofal y Dyfodol

Cyflwyniad

Mae'r dudalen ganlynol yn cynnwys gwybodaeth a dolenni ar gyfer Cynllunio Gofal y Dyfodol (gynt yn cael ei adnabod fel Cynllunio Gofal Ymlaen Llaw ac at y Dyfodol neu Gynllunio Gofal Rhagarweiniol).

Mae'r adnoddau a'r ffurflenni hyn ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’u nod yw darparu dull rhannu a chynnwys Cymru’n Un.

Mae’r dogfennau hyn wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid yn y Grŵp Strategaeth Cynllunio y Dyfodol (FCP) Cymru, sy'n dod o dan adain Bwrdd Gofal Diwedd Oes GIG Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru.

Gwnaethpwyd y penderfyniadau sy'n llywio'r ffurflenni hyn ar ôl ymgysylltu'n helaeth â chleifion a gofalwyr. Mae gan y Grŵp FCP gynrychiolaeth cleifion ac mae hefyd yn grŵp ar gyfer Cymru gyfan. Mae hefyd wedi'i lywio gan ddata a gasglwyd yn ystod Cynhadledd Genedlaethol Cynllunio Gofal y Dyfodol yng Nghymru.