Gwobrau GIG Cymru

Croeso i dudalen Gwobrau GIG Cymru


Mae Gwobrau GIG Cymru yn dathlu rhagoriaeth wrth ysgogi gwelliannau a thrawsnewid gwasanaethau.

Mae enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026 wedi cael eu cyhoeddi. Cafodd timau o bob cwr o Gymru eu cydnabod am eu cyfraniadau at wella a thrawsnewid gwasanaethau, profiadau a chanlyniadau i bobl ledled Cymru.

Mae'r Gwobrau'n dathlu prosiectau a thimau sy'n cyflawni gwelliannau mesuradwy mewn ansawdd, diogelwch a pherfformiad ar draws gwasanaethau iechyd a gofal.

Cyhoeddwyd enillwyr eleni mewn digwyddiad dathlu yng Nghaerdydd nos Iau 12 Tachwedd, a wnaeth ddwyn ynghyd y rhai a oedd wedi cyrraedd y rownd derfynol, cydweithwyr a phartneriaid o bob cwr o Gymru i gydnabod rhagoriaeth a rhannu dysgu. Cyhoeddwyd 13 o enillwyr o blith 39 o brosiectau a oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, a chyflwynwyd gwobr arbennig am Gyfraniad Rhagorol at Wella Gofal Iechyd i un o enillwyr y categorïau.

Gallwch archwilio’r timau a'r prosiectau a gafodd eu henwi'n enillwyr Gwobrau GIG Cymru 2026 isod.

Os hoffech gael rhagor o fanylion am unrhyw un o'r prosiectau a restrir, anfonwch neges i: gwobraugigcymru@wales.nhs.uk