Neidio i'r prif gynnwy

Peilot Gwiriadau Iechyd Blynyddol (14+)

Fel rhan o’n hymrwymiad i wella iechyd a llesiant pobl ag anabledd dysgu yng Nghymru, buom yn gweithio gyda sawl meddygfa i brofi a all Gwiriadau Iechyd Blynyddol weithio i oedolion ifanc o 14 oed ymlaen.

Cynhelir Gwiriad Iechyd Blynyddol unwaith y flwyddyn. Mae unigolion ag anabledd dysgu yn cael eu gweld gan feddyg i siarad am eu hiechyd. Mae hyn yn eu helpu i ddod i adnabod eu meddyg yn well, rhannu sut maen nhw'n teimlo, a darganfod mwy am eu hiechyd fel y gellir nodi materion yn gynnar a threfnu triniaeth yn gynt.

Archwiliodd y peilot y ffordd y mae gwasanaethau gofal sylfaenol yn cynnig Gwiriadau Iechyd Blynyddol i bobl ifanc rhwng 14 a 18 oed. Roedd gan bob un o'r defnyddwyr gwasanaeth anabledd dysgu ac yn byw yng Nghymru.

 

Cysylltwch â ni

Os oes gennych ymholiadau pellach neu os hoffech ragor o wybodaeth am raglen Anabledd Dysgu Gweithrediaeth GIG Cymru, cysylltwch ag: improvementcymru_ld@wales.nhs.uk