Neidio i'r prif gynnwy

Sgyrsiau am Ddementia

Ymunwch â'n cwrs peilot newydd

Rydyn ni'n lansio carfan newydd o'n cwrs peilot ar-lein, sydd wedi'i gynllunio ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'r rhai sy'n eu cefnogi.  

Bydd y cwrs yn dechrau Dydd Llun 14 Gorffennaf 2025 a bydd yn rhedeg yn wythnosol am chwe wythnos. Bydd sesiynau bob Dydd Llun rhwng 10:00am a 12:30pm.

Bydd y cwrs cyfeillgar a chefnogol hwn yn eich helpu i wneud y canlynol: 

  • Meithrin hyder wrth reoli bywyd bob dydd 
  • Bod yn gorfforol egnïol ac yn annibynnol 
  • Rhannu profiadau a gwneud ffrindiau newydd 

Yr hyn y byddwn yn ei drafod: 

  • Delio ag ansicrwydd a heriau o ddydd i ddydd 
  • Gofalu am eich corff a bod yn gorfforol egnïol 
  • Gwneud penderfyniadau ymarferol 
  • Siarad am ddementia ag eraill 
  • Bwyta’n iach 
  • Strategaethau ymdopi 
  • Cynnal perthnasau 

Os oes gennych ddiddordeb, rydych yn bodloni'r meini prawf ac rydych yn gallu ymuno â ni ar gyfer y chwe sesiwn, llenwch y ffurflen isod. Bydd eich adborth yn ein helpu i wella'r cwrs a chefnogi mwy o bobl yn y dyfodol.

Cwblhewch y ffurflen i archebu eich lle