Camau i'ch helpu i reoli straen a chefnogi eich llesiant
Mae byw gyda diabetes neu ofalu am rywun gyda diabetes yn gallu bod yn heriol ar adegau, ac mae’n hollol normal iddo effeithio ar sut rydych chi’n teimlo’n emosiynol yn ogystal ag yn gorfforol.
Gall rheoli glwcos yn y gwaed, cadw trefn ar apwyntiadau, a gwneud newidiadau i'ch ffordd o fyw deimlo’n llethol ar adegau.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd, dydych chi ddim ar eich pen eich hun - mae llawer o bobl gyda diabetes yn teimlo straen, gorbryder neu hwyliau isel o bryd i’w gilydd, ond mae cymorth ar gael.
Gall cymryd camau bach i ofalu am eich llesiant wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Gallai hyn gynnwys siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddyn nhw, neilltuo amser i orffwys, neu ddod o hyd i ffyrdd o symud yr ydych yn eu mwynhau.
Mae rhai hefyd yn cael cysur o gysylltu gydag eraill sy’n deall yr hyn maen nhw’n ei wynebu.
Ar y dudalen hon, fe welwch chi ddolenni i adnoddau defnyddiol, cyngor ymarferol, a sefydliadau dibynadwy sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth. P'un ai eich bod chi eisiau awgrymiadau ar gyfer rheoli straen, arweiniad ar ymdopi ag effaith emosiynol diabetes, neu sicrwydd bod yr hyn rydych chi'n ei deimlo yn ddilys, mae'r adnoddau hyn ar gael i chi: