Neidio i'r prif gynnwy

Canllaw i fyw'n dda ar ôl diagnosis newydd o ddiabetes math 2

Gall diagnosis newydd o ddiabetes math 2 deimlo'n llethol. Mae'r Pecynnau Adeg Diagnosis wedi'u datblygu am y rheswm hwn - i gefnogi pobl ar yr adeg bwysig hon, a’u helpu i droi diagnosis yn gamau nesaf clir ac ymarferol.

Mae'r canllaw i gleifion; Byw'n Dda Gyda Diabetes Math 2, yn ymdrin â'r hyn sydd fel arfer yn digwydd ar ôl diagnosis, beth i'w wneud yn gyntaf, cwestiynau cyffredin, lleddfu’r cyflwr, archwiliadau iechyd hanfodol, meddyginiaethau, bwyd, symud, monitro lefelau glwcos yn y gwaed, llesiant emosiynol a llwybrau cymorth dibynadwy.
 

Wedi'u datblygu gyda chlinigwyr a phobl sy'n byw gyda diabetes

Mae'r adnoddau hyn wedi'u cyd-gynllunio gyda phobl sy'n byw gyda diabetes math 2, Diabetes UK a gweithwyr gofal iechyd amlddisgyblaethol. Mae hyn yn sicrhau bod y pecynnau'n berthnasol yn glinigol ac wedi'u seilio ar brofiadau go iawn pobl sy'n cael diagnosis newydd.

Yn eich cefnogi o'r diwrnod cyntaf

Mae'r pecynnau wedi'u cynllunio i roi'r wybodaeth a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch i reoli diabetes o'r diwrnod cyntaf. Maent yn annog camau cyntaf bach, cyraeddadwy fel trefnu archwiliadau hanfodol, deall meddyginiaethau, cael mynediad at addysg diabetes, gwneud un newid bwyd, a dewis un nod symud realistig. Y nod yw eich helpu i feithrin hyder ac osgoi eich llethu ar adeg diagnosis.

Lawrlwytho’r pecyn

Defnyddiwch y pecyn i'ch helpu i gymryd y cam nesaf yn hyderus.