Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae teleiechyd yn cefnogi gofal cleifion

Mae'r platfform teleiechyd yn cynnig golwg amser real ar wybodaeth cleifion. Mae'n caniatáu i dimau clinigol oruchwylio gofal o bell wrth gynnal safonau uchel o ran diogelwch ac ymatebolrwydd.

Mae'r platfform yn galluogi staff clinigol i:

Monitro data iechyd mewn amser real

  • Arwyddion hanfodol (e.e. cyfradd curiad y galon, dirlawnder ocsigen, tymheredd)
  • Symptomau a adroddwyd gan gleifion drwy ffurflenni digidol
  • Lanlwytho ar unwaith i ddangosfwrdd clinigwyr

Blaenoriaethu gofal yn seiliedig ar angen clinigol

  • Mae dangosyddion gweledol (e.e. Coch/Ambr/Gwyrdd) yn tynnu sylw at gleifion sydd angen sylw.
  • Yn galluogi rheoli llwyth achosion yn effeithlon.

Derbyn rhybuddion prydlon

  • Rhybuddion awtomataidd pan fydd darlleniadau y tu allan i drothwyon clinigol.
  • Yn cefnogi ymyrraeth gynnar ac ymateb clinigol addas.

Cyfathrebu â chleifion yn ddiogel

  • Gall clinigwyr anfon negeseuon at gleifion neu sefydlu galwadau fideo.
  • Yn cefnogi tawelu meddwl, dwysáu, neu egluro heb ymweliad cartref.

Caiff yr holl benderfyniadau clinigol a chyswllt â chleifion eu rheoli'n lleol gan dimau clinigol.

Mae'r platfform yn galluogi dull rhagweithiol o ofal, gan ganiatáu adnabod dirywiad yn gynharach a helpu i osgoi gwaethygu lle bo modd.

Gweithredu ar draws Byrddau Iechyd

Mae'r gwasanaeth teleiechyd ar gael ar draws sawl bwrdd iechyd yng Nghymru.

Mae'r meysydd ffocws cychwynnol yn cynnwys Meddygaeth Acíwt, Resbiradol, Cardioleg ac Eiddilwch.

Fodd bynnag, mae'r dull wedi'i gynllunio i fod yn hyblyg ac yn raddadwy, gyda datblygiad pellach wedi'i gynllunio ar draws ystod eang o lwybrau clinigol megis:

  • Adferiad llawfeddygol
  • Oncoleg
  • Gofal lliniarol a gofal diwedd oes
  • Pediatreg
  • Rheoli cyflyrau tymor hir

Roedd BIP Cwm Taf Morganwg yn un o'r Byrddau Iechyd cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu'r model teleiechyd, gan gefnogi cleifion ar y llwybr Meddygaeth Acíwt.

Dywedodd Rheolwr y Gyfarwyddiaeth ar gyfer Gofal Sylfaenol Brys: “Dydw i ddim yn credu bod yr un ohonom yn disgwyl i’r ‘mynd yn fyw’ fynd cystal ag y gwnaeth gyda thri chlaf ar y diwrnod cyntaf. Mae canfod ein hunain yn cytuno i ddyblu’r gwelyau rhithwir ar ôl dim ond wythnos yn anhygoel.

Mae hyn yn newyddion ardderchog ac yn dyst i'r holl waith caled sydd wedi mynd i roi'r prosiect hwn ar waith.”

Mae cleifion hefyd wedi rhoi adborth cadarnhaol. Rhannodd uwch nyrs mewn gofal brys ymateb un o'i chleifion gyda ni: “Roedd hi'n falch iawn o fod yn defnyddio'r gwasanaeth. Canfu fod yr offer yn hawdd iawn i'w ddefnyddio ac roedd hi'n teimlo'n dawel ei meddwl gan wybod y byddai meddyg yn adolygu ei harsylwadau yn ystod y dydd.”

Sut gall Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau fod yn rhan o hyn?

Mae'r gwasanaeth ar gael i bob bwrdd iechyd yng Nghymru ac fe'i cefnogir yn ganolog gan y tîm Trawsnewid Gwerth o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru.

Mae'r gefnogaeth yn cynnwys:

  • Cynllunio clinigol a gweithredol
  • Sicrwydd a llywodraethu
  • Hyfforddi staff a sefydlu staff
  • Offer a logisteg
  • Gwerthuso ac adrodd

Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy. Anfonwch e-bost atom yn NHSPI.ValueTransformation@wales.nhs.uk a bydd rhywun yn cysylltu â chi.