Neidio i'r prif gynnwy

Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol

Gofynnodd Llywodraeth Cymru i Berfformiad a Gwella GIG Cymru gynnal Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cymru Gyfan cynhwysfawr.

Bydd yr asesiad hwn yn canolbwyntio ar fod yn edrych ymlaen, wedi'i gynllunio i roi sicrwydd i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch a yw gwasanaethau'n darparu gofal diogel, o ansawdd uchel a thosturiol, ac a yw dysgu o adolygiadau blaenorol yng Nghymru a ledled y DU wedi'i wreiddio'n effeithiol.