Os oes gennych bryderon am eich gofal neu driniaeth, siaradwch â'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal cyn gynted â phosibl neu gofynnwch i siarad â'r brif fydwraig neu brif nyrs. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon yn syth.
Os nad yw hyn yn helpu, neu os nad ydych chi eisiau siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd.
Gelwir y broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru yn Gweithio i Wella.
Mae’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar gael yn ein hadran cymorth a chefnogaeth yma.