Mae'r Panel Goruchwylio Annibynnol yn cydnabod y gall asesiadau fel hyn beri gofid a bod yn drawmatig i fenywod, rhieni a theuluoedd. Gall nifer o sefydliadau ddarparu cefnogaeth ar faterion gwahanol. Cysylltwch ag un ohonyn nhw os oes angen help arnoch.
|
Rhagor o wybodaeth am bwy i gysylltu ag ef os oes angen help a chefnogaeth arnoch yng Nghymru. Elusennau a Chefnogaeth - Perfformiad a Gwella GIG Cymru Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cymorth gyda chostau byw, gofal babanod diogel, brechiadau, maeth a gofalu amdanoch chi eich hun ar dudalennau gwefan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol. Bydd lleisiau a phrofiadau menywod, rhieni a theuluoedd yn ganolog i'r asesiad hwn. Byddem yn annog menywod, rhieni a theuluoedd i gysylltu â ni i rannu eu profiadau gyda'r panel. Bydd sawl ffordd o wneud hynny ym mha bynnag ffordd y maent yn teimlo'n gyfforddus yn gwneud hynny - rhannu eu profiadau, eu blaenoriaethau, a'u disgwyliadau ar gyfer gofal diogel a thosturiol. Fodd bynnag, nid oes gan y panel annibynnol yr awdurdodaeth i ystyried pryderon neu gwynion sydd heb eu datrys. Gwybodaeth bellach os oes gennych bryder neu gŵyn |
|
Os oes gennych bryderon am eich gofal neu driniaeth, siaradwch â'r staff sy'n ymwneud â'ch gofal cyn gynted â phosibl neu gofynnwch i gael siarad â’r fydwraig neu'r nyrs sy'n gyfrifol. Byddant yn ceisio datrys eich pryderon yn syth. Os nad yw hyn yn helpu, neu os nad ydych eisiau siarad â'r staff, gallwch gysylltu â thîm cwynion y bwrdd iechyd. Gelwir y broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru yn Gweithio i Wella. Byrddau iechyd lleol
Pan fyddwch wedi codi eich pryder, bydd y tîm cwynion yn gwneud y canlynol:
Dylai'r tîm cwynion ymateb i chi ymhen 30 diwrnod gwaith o dderbyn eich pryder. Os na all ymateb i chi o fewn y cyfnod hwnnw, bydd yn egluro pam ac yn rhoi gwybod pryd y gallwch ddisgwyl ymateb. Mae’n bosibl y bydd angen cyfnod hwy i ymchwilio i rai pryderon. Os nad ydych yn fodlon ag ymateb y bwrdd iechyd neu'r ymddiriedolaeth, gallwch gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 1 Ffordd yr Hen Gae Pencoed CF35 5LJ Ffôn: 0300 790 0203 Gallwch gymryd hyd at 12 mis i godi pryder neu gŵyn. Fodd bynnag, mae'n well siarad â rhywun cyn gynted â phosibl. Os yw wedi bod yn hirach na 12 mis a bod rhesymau da dros yr oedi, efallai y bydd y tîm cwynion yn dal i allu delio â'ch pryder neu gŵyn. |
Cymorth pellach ar gael
Mae Llais yn gorff annibynnol sy'n darparu eiriolaeth a chymorth cwynion am ddim ac sy’n gyfrinachol.
Llais
Trydydd llawr
33-35 Ffordd y Gadeirlan
Caerdydd
CF11 9HB
Ffôn: 02920 235558
E-bost: ymholiadau@llaiscymru.org
Gwefan: Llais Cymru