Neidio i'r prif gynnwy

I gleifion - 15 cam - Helpu i lunio gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru

Diolch yn fawr iawn am ddangos diddordeb mewn cymryd rhan yn yr Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol ac yn benodol yr ymweliadau safle 15 cam.

Nid ydych chi'n ymrwymo i unrhyw beth ond os hoffech gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen hon:

Dull 15 cam - Ymuno â'n hymweliadau safle – Llenwch y ffurflen

Bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i ddysgu mwy amdanoch chi, trafod pa safle a allai fod fwyaf addas i chi ac egluro’r hyn y byddech chi'n ei wneud.

Gweler isod os oes gennych gwestiynau.

Diolch eto am helpu i lunio gofal mamolaeth a newyddenedigol yng Nghymru.


Cwestiynau Cyffredin

Beth ydych chi eisiau i mi ei wneud?

Rydym yn gwahodd menywod, rhieni a theuluoedd i gymryd rhan mewn ymweliadau byr ag unedau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

Helpwch ni i ddeall sut deimlad yw cerdded i mewn i wasanaeth — bydd eich mewnwelediadau yn helpu i lunio gofal ar gyfer pobl eraill.

Sut ydw i'n gwybod a ydw i'n gymwys i ymuno â chi?

Nid arolygiadau yw'r ymweliadau hyn, mae'n ymwneud â phrofiad, eich profiad chi.

Rydych chi'n gymwys os ydych chi wedi defnyddio’r gwasanaethau neu os byddwch chi'n eu defnyddio. Byddwch yn helpu ein panel annibynnol i ddeall yr hyn sy'n gweithio a’r hyn a allai fod yn well. 

Nid oes rhaid i chi fod wedi rhoi genedigaeth i gymryd rhan. Bydd eich profiad fel rhiant, tad, neu aelod o'r teulu estynedig yr un mor bwysig.

Rydyn ni eisiau i chi rannu'r hyn rydych chi'n ei weld, yn ei glywed ac yn ei deimlo.

Beth yw'r dull 15 cam?

Fel rhan o'r gwaith hwn, rydym yn defnyddio dull 15 Cam wedi'i addasu. Mae’r dull 15 Cam yn ddull sefydledig sy'n ein helpu i ddeall sut olwg sydd ar ofal o ansawdd da a sut mae'n teimlo o'r argraff gyntaf drwy ymweld â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws GIG Cymru. Nid arolygiad mohono, ond yn hytrach ffordd o arsylwi a myfyrio ar sut mae menywod, rhieni, teuluoedd, yn ogystal â staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn profi gwasanaethau. Mae’r ffocws ar yr hyn y mae pobl yn ei weld, yn ei glywed, ac yn ei deimlo pan fyddant yn cerdded i mewn i wasanaeth am y tro cyntaf, a sut mae hynny'n gosod y naws ar gyfer eu profiad cyffredinol.

Pam mae eich llais yn bwysig?

Mae eich llais yn hanfodol, oherwydd bydd yr hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym ni, eich mewnwelediadau a'ch profiad bywyd yn hanfodol i'n helpu i lunio gwasanaethau sy'n adlewyrchu anghenion a lleisiau'r rhai sy'n eu defnyddio.

Beth fydd yn digwydd yn ystod yr ymweliad?

Byddwch yn rhan o dîm bach a fydd o bosibl yn cynnwys menywod eraill, rhieni a theuluoedd, a bydd clinigwyr (nad ydynt yn gweithio ar y safle), ac aelod neu gynrychiolydd annibynnol o'r panel, yn ymuno â chi.

Byddwch yn treulio cyfnod byr mewn gwahanol rannau o'r gwasanaethau, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar y safle (e.e. clinigau cyn geni, wardiau esgor, unedau newyddenedigol).

Byddwch chi'n arsylwi, yn myfyrio, ac yn rhannu'r hyn rydych chi'n ei weld, yn ei glywed, ac yn ei deimlo.

Bydd eich adborth yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio i lywio'r adroddiad sicrwydd cenedlaethol.