Neidio i'r prif gynnwy

I staff - Ymweliad 15 cam – pam rydyn ni'n ymweld â'ch gweithle

Diolch am eich diddordeb mewn dysgu rhagor am yr ymweliadau 15 cam a’r Asesiad Sicrwydd Mamolaeth a Newyddenedigol Cenedlaethol.

Efallai eich bod wedi gweld un o’r posteri am yr ymweliadau 15 cam neu efallai eich bod wedi cael gwybod y bydd tîm asesu bach yn ymweld â'ch gweithle yn fuan.

Yn gyntaf, gallwn eich sicrhau nad arolygiad yw’r ffrwd waith ymweliadau safle 15 cam sy’n rhan o’r asesiad sicrwydd cenedlaethol.  Mae'n ymwneud â phrofiadau.

Cymerwch olwg ar ein cwestiynau cyffredin.  Os nad ydych chi'n teimlo ein bod ni'n ateb eich cwestiwn, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy anfon neges i gyfeiriad e-bost pwrpasol ein staff isod.


Beth yw'r ffrwd waith 15 cam?

Mae’r ffrwd waith 15 cam yn rhan o'r asesiad sicrwydd cenedlaethol.

Mae'n ffordd o gasglu mewnwelediadau ansoddol i sut mae gwasanaethau'n teimlo i'r rhai sy'n eu defnyddio.

Rydym yn defnyddio dull 15 cam wedi'i addasu, dull sefydledig sy'n ein helpu i ddeall sut olwg sydd ar ofal o ansawdd da a sut mae’n teimlo o'r argraff gyntaf drwy ymweld â gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws GIG Cymru.

Ai arolygiad ydyw?

Nid arolygiad mohono, ond yn hytrach ffordd o arsylwi a myfyrio ar sut mae menywod, rhieni, teuluoedd, yn ogystal â staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn profi gwasanaethau. Mae’r ffocws ar yr hyn y mae pobl yn ei weld, yn ei glywed, ac yn ei deimlo pan fyddant yn cerdded i mewn i wasanaeth am y tro cyntaf, a sut mae hynny'n gosod y naws ar gyfer eu profiad cyffredinol.

Beth fydd yn digwydd yn ystod yr ymweliadau?

Os ydych chi’n gweithio ar ddiwrnod yr ymweliad, efallai y byddwch chi'n gweld tîm/timau bach yn cynnwys menywod, rhieni a theuluoedd, clinigwyr (nad ydynt yn gweithio ar eich safle) ac aelod neu gynrychiolydd annibynnol o'r panel.

Byddant yn treulio cyfnod byr mewn gwahanol feysydd o'r gwasanaethau, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar y safle (e.e. clinigau cyn geni, wardiau esgor ac unedau newyddenedigol).

Byddant yn arsylwi, yn myfyrio, ac yn rhannu'r hyn maen nhw'n ei weld, ei glywed a'i deimlo.

Bydd eu hadborth yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio i lywio'r adroddiad sicrwydd cenedlaethol.

Beth arall ddylwn i ei wybod?

Ni allwn bwysleisio digon nad arolygiadau yw'r ymweliadau hyn.

Maent wedi’u cynllunio i fod yn barchus, yn gydweithredol ac yn gefnogol. Bydd y canfyddiadau'n cyfrannu at yr asesiad sicrwydd cenedlaethol ac yn llywio datblygiad gwasanaethau yn y dyfodol.

Ni fydd yr un o'r menywod, rhieni na theuluoedd wedi defnyddio’r gwasanaethau ar eich safle.  Er enghraifft, efallai eu bod wedi bod i ysbyty arall yn eich bwrdd iechyd, ond ni fyddant wedi bod i’ch ysbyty chi.

Mae'r ymweliadau hyn wedi'u cynllunio i fod yn barchus, yn gydweithredol ac yn gefnogol.

Efallai y bydd staff yn cael eu harsylwi, ond bydd y ffocws ar yr amgylchedd a'r profiad, nid perfformiad unigolion.

Cofiwch y gallwch ychwanegu eich llais at yr asesiad drwy gyfrannu at 'eich lle i gael eich clywed'.  Fel rhan o’r ffrwd waith profiad staff gallwch gymryd rhan mewn gweithdai ar y safle, gael sesiwn unigol gydag arweinydd y ffrwd waith staff neu gallwch ddefnyddio ein mewnflwch e-bost cyfrinachol i rannu eich profiad.  Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sut allwch chi gymryd rhan yn yr adran Eich Lle i Gael eich Clywed ar y wefan hon.