I ddathlu a hyrwyddo Wythnos Anabledd Dysgu eleni, mae Gwelliant Cymru yn annog cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i gydnabod anghenion a gofynion pobl ag anabledd dysgu.
Thema'r ymgyrch eleni, dan arweiniad Mencap, yw 'Wyt ti'n fy ngweld i?' ac mae Gwelliant Cymru yn defnyddio'r wythnos i godi ymwybyddiaeth o wneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Anfonwyd adnoddau at fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i’w helpu i hyrwyddo’r ymgyrch Gofyn, Addasu, Cynorthwyo sy’n cael ei lansio’r wythnos hon, ac mae’n bosibl y bydd rhai sefydliadau’n cynnal digwyddiadau lleol ar safleoedd ysbytai.
Nod Gofyn, Addasu, Cynorthwyo yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.
Dywedodd Dr Rachel Ann Jones, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol Anabledd Dysgu: “Mae wythnos Anabledd Dysgu yn amser i ni gyd ddathlu pobl ag anabledd dysgu ac i atgyfnerthu pwysigrwydd gwneud addasiadau rhesymol ar gyfer ein cleifion.
“Trwy godi ymwybyddiaeth o’r ymgyrch Gofyn, Addasu, Cynorthwyo, y gobaith yw y bydd staff gofal iechyd yn nodi ac yn diwallu anghenion iechyd pobl ag anableddau dysgu yn effeithiol.
“Drwy rymuso’r gweithlu gyda gwell gwybodaeth, rydym yn cymryd cam cadarnhaol, diamau tuag at leihau’r anghydraddoldebau iechyd sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.”
Ychwanegodd Laura Andrews, Uwch Reolwr Gwella: “Mae addasiadau rhesymol yn ofyniad cyfreithiol ac maent yn gwneud yr hyn sy'n anhygyrch yn hygyrch i unigolyn.
“Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar sefydliadau i wneud addasiadau rhesymol i’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu darparu i sicrhau bod pobl anabl yn derbyn gofal iechyd sy’n benodol i’w hanghenion.
“Pan ‘ofynnir’ i unigolyn beth yw ei anghenion a bod y gweithiwr iechyd proffesiynol yn 'addasu' ei ddull o ymateb, mae'n 'cynorthwyo’ gostyngiad mewn anghydraddoldebau iechyd a'r straen i'r unigolyn a'r rhai sy'n gofalu amdano.
“Mae’r pethau bach yn gallu ac yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn.”
Fel rhan o'r ymgyrch hon, anogir cydweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ofyn i'r rhai y maent yn eu cefnogi am eu Proffil Iechyd, sy'n cynnwys gwybodaeth am anghenion iechyd, gofal a chymorth a chyfathrebu’r unigolyn.
Nod y Proffil Iechyd yw helpu pobl ag anabledd dysgu i dderbyn gofal iechyd diogel ac effeithiol ar yr adeg y mae ei angen arnynt. Mae'r proffil wedi'i gynllunio i fod yn eiddo i'r unigolyn i’w rannu ac os oes angen gall gofalwr helpu i'w gwblhau a'i rannu.
I gael rhagor o wybodaeth am y Proffil Iechyd, gan gynnwys copïau i’w lawrlwytho a’u hargraffu, ewch i: Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru.