Ymchwil newydd yn gosod fframwaith ar gyfer gwasanaethau gofal i hybu lles emosiynol ymysg plant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd

14 Hydref 2024


Cyhoeddwyd ymchwil newydd i ychwanegu at y drafodaeth genedlaethol am fodelau gofal sy’n hybu lles emosiynol ymysg Plant ag Anghenion Ychwanegol (CAN) a’u teuluoedd.

Mae’r ymchwil yn amlygu pwysigrwydd gweithio’n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd, gan osod fframwaith i’w cynnwys ym mhob agwedd ar y llwybr gofal i wella eu lles emosiynol.

Fe wnaeth rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru gomisiynu Dr Jennifer Mc Elwee, Seicolegydd Plant Ymgynghorol a Lucinda Oliver, Seicolegydd Cynorthwyol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gynnal yr ymchwil.

Mae'r prosiect ymchwil wedi gweithio'n agos gyda phlant a'u teuluoedd. Cafodd y prosiect ei lywio gan brofiadau gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n darparu gwasanaethau. Mae'n dilyn Adolygiad Llenyddiaeth a Gwerthusiad o Fodelau a Fframweithiau Gofal Cenedlaethol sy’n darparu Gofal i Blant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru.

Darllenwch yr ymchwil nawr.


Cwrdd â’ 'Bwlch Gweithredu Polisi'

Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella ar gyfer rhaglen Anabledd Dysgu, Gwelliant Cymru:

“Pwrpas yr ymchwil yw asesu'r bwlch rhwng argymhellion polisi swyddogol a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd ym mywydau plant a'u teuluoedd. Ceir hyn ei adnabod fel 'Bwlch Gweithredu Polisi.'

“Mae’r adroddiad wedi gosod fframwaith ar gyfer gwasanaethau i hybu lles emosiynol plant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd. Mae wedi datblygu gam ymhellach i archwilio’r realiti sy’n wynebu darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau drwy werthuso rhai agweddau ar y fframwaith hwn yn ymarferol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

“Mae angen i blant ag anghenion ychwanegol gael dull gweithredu cydgysylltiedig gan awdurdodau lleol, gofal iechyd a chymdeithasol, a’r trydydd sector. Dyna pam ei bod yn bwysig i ni ddeall sut mae’r fframwaith yn cael ei weithredu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a dysgu o’u ffyrdd o gydweithio ag asiantaethau eraill ledled Gwent i gynllunio, datblygu a darparu gofal.”


Canfyddiadau allweddol

Bydd canfyddiadau’r ymchwil yn cael eu rhannu â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, a fforymau amlddisgyblaethol a chymunedau ymarfer eraill. Nod yr ymchwil yw dylanwadu, llunio a gwella darpariaeth gwasanaethau a modelau gweithio.

Mae rhai o’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys y canlynol:

  • Er mwyn ffynnu, rhaid i blant ag anghenion ychwanegol a’u teuluoedd gael cymorth i gael ansawdd bywyd da ac i fod yn rhan o’u cymunedau lleol.
  • Mae cymorth arbenigol yn gweithio orau pan gaiff ei gyd-gynhyrchu, pan fydd yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn gyfannol.
  • Dylai plant ag anghenion ychwanegol a'u teuluoedd fod yn bartneriaid cyfartal ym mhob agwedd ar eu gofal.
  • Mae dull amlasiantaethol cydgysylltiedig o roi cymorth ar bob lefel yn caniatáu mwy o gyfleoedd i hybu lles emosiynol. Mae hyn yn golygu gweithio'n uniongyrchol gyda phlant a theuluoedd i lywio cynllunio strategol a llunio polisïau.
  • Mae gan leoliadau preswyl oblygiadau ariannol ac emosiynol. Gall ymagwedd sy'n seiliedig ar seicolegol at gymorth leihau'r angen am ofal preswyl a chynyddu'r siawns y bydd plant yn parhau i fyw gartref.

Darllenwch y canfyddiadau cyflawn nawr.


Gwybodaeth am yr awduron

Mae Rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru yn gweithio i greu Cymru fwy diogel a thecach i bobl sy'n byw ag anabledd dysgu. Mae'r rhaglen yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i gyflawni prosiectau sy'n gwella iechyd a llesiant pobl ag anabledd dysgu. Mae pawb yn y gymuned yn haeddu gofal effeithiol ac effeithlon sy'n cwrdd â’u hanghenion unigol.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau GIG ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen a De Powys. Mae'n darparu gofal i boblogaeth o 650,000 o bobl ac yn cyflogi dros 14,000 o staff.