Mae menywod a merched yng Nghymru wrth wraidd gwelliannau sy'n cael eu gwneud i adnodd sy'n darparu gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau ar gyfer iechyd menywod.
Mae gwefan Iechyd Menywod GIG Cymru wedi cyflwyno cyfres o nodweddion newydd a luniwyd gan adborth o bob cwr o Gymru.
Cynlluniwyd y wefan yn wreiddiol gyda mewnbwn gan fenywod a merched. Aeth y wefan yn fyw ym mis Mawrth eleni. Mae'n darparu safle un stop dibynadwy ar gyfer gwybodaeth, cefnogaeth a gwasanaethau iechyd menywod, a gaiff ei sicrhau o ran ansawdd gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Erbyn hyn, mae'r wefan yn esblygu mewn ymateb i adborth defnyddwyr a thueddiadau sy'n dod i'r amlwg ym maes iechyd menywod. Mae’r nodweddion newydd yn cynnwys tynnu sylw at argaeledd gwasanaethau iechyd menywod mewn ardaloedd lleol, rhoi cefnogaeth i ddeall terminoleg iechyd menywod, a rhannu cyfleoedd i rannu profiadau trwy gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, arolygon a chyfweliadau.
Dywedodd Dr Jazz Walker-Baker, Arweinydd Clinigol a Meddyg Teulu: “Rydym yn gweld ymwybyddiaeth gynyddol o iechyd y pelfis, ardal a all gael effaith ddofn ar fywydau beunyddiol a llesiant menywod. Dywedodd menywod wrthym eu bod eisiau gwybodaeth gliriach am y gefnogaeth sydd ar gael yn eu hardal leol, felly rydym wedi ymateb drwy ychwanegu chwilotwr cod post at y wefan. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i fenywod ddod o hyd i'r wybodaeth gywir a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt a chael mynediad atynt, lle bynnag y bônt yn byw yng Nghymru."
Mae pwysigrwydd iaith gliriach a chyfeirio gwell wedi bod yn themâu a godwyd dro ar ôl tro gan fenywod sy'n defnyddio'r wefan. I helpu i fynd i'r afael â hyn, mae rhestr termau newydd wedi'i hychwanegu, sy'n egluro geiriau ac ymadroddion y gall menywod eu clywed yn ystod apwyntiadau gofal iechyd neu ddod ar eu traws wrth chwilio am wybodaeth iechyd ar-lein. Nod yr adnodd yw helpu menywod i ddeall gwybodaeth am eu hiechyd yn well a theimlo'n fwy hyderus wrth lywio'r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.
“Mae hyder yn chwarae rhan bwysig mewn iechyd a llesiant. Pan fydd menywod yn deall yr wybodaeth a roddir iddynt, maent yn gallu gwneud penderfyniadau gwell ar sail gwybodaeth ac eiriol dros eu hanghenion. Rydym hefyd yn gwybod bod profiadau menywod yn hanfodol wrth i ni lunio gwasanaethau gwell a thystiolaeth gryfach ar gyfer y dyfodol. Mae ein hadran Cymryd Rhan newydd yn rhoi cyfle i fenywod gyfrannu at ymchwil, rhannu eu profiadau a chwarae rhan weithredol wrth wella iechyd menywod yng Nghymru”, ychwanegodd Jazz.
Mae tudalennau Cymryd Rhan y wefan, a gynhyrchwyd mewn cydweithrediad ag Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, yn dwyn ynghyd gyfleoedd i gymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil, arolygon a chyfweliadau. Ochr yn ochr â’r gwaith cyd-gynhyrchu cychwynnol a wnaed ar y wefan, mae'n galluogi menywod i rannu eu profiadau ac yn eu helpu i lunio ymchwil, gwasanaethau a chefnogaeth i fenywod y dyfodol ledled Cymru.
Yr hydref hwn, bydd y gwaith o ddatblygu'r wefan yn parhau trwy ymgysylltu'n uniongyrchol â menywod ledled Cymru. Bydd yr ymgysylltiad parhaus hwn yn helpu i sicrhau y bydd y wefan yn parhau i fod yn berthnasol, yn hygyrch ac wedi'i llunio gan brofiadau, blaenoriaethau ac anghenion y menywod y mae wedi'i dylunio i'w cefnogi.
Daeth Hayley Peters Cyfarwyddwr Nyrsio Perfformiad a Gwella GIG Cymru, i’r casgliad hwn: “Mae lleisiau menywod wedi bod yn ganolog wrth i ni ddatblygu’r wefan, ac mae’n bwysig y bydd hyn yn parhau. Rydym am i’r wefan barhau i ymateb i'r hyn y mae menywod ei eisiau, a sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar gael yn parhau i fod yn ddefnyddiol, yn ddibynadwy ac yn berthnasol iddynt.
“Mae’r gwelliannau hyn yn ganlyniad cydweithio agos rhwng Perfformiad a Gwella GIG Cymru, Iechyd Digidol a Gofal Cymru, Ymchwil Iechyd Menywod Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill, gan sicrhau bod adborth menywod yn parhau i fod wrth wraidd datblygu’r wefan.
“Byddem yn annog menywod ac unrhyw un sy'n defnyddio'r wefan i barhau i rannu eu barn a'u profiadau â ni. Boed hynny'n rhywbeth yr hoffent i ni ei ychwanegu, yn rhywbeth y gellid ei fynegi’n gliriach, neu’n rhywbeth sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol iddynt, gall eu hadborth helpu i lunio'r hyn a ddaw nesaf.”
Gall ymwelwyr â'r wefan rannu eu barn gan ddefnyddio'r botymau adborth ar wefan Iechyd Menywod GIG Cymru.