Heddiw yw Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd, a thema eleni yw 'gofal diogel i bob newydd-anedig a phlentyn' a 'diogelwch cleifion o'r cychwyn cyntaf'.
Bydd Sally Holland, cyn Gomisiynydd Plant Cymru, yn arwain asesiad sicrwydd annibynnol o wasanaethau perinatal (mamolaeth a newyddenedigol) ar draws GIG Cymru.
Mae dogfen ddigidol ryngweithiol newydd sy'n tynnu sylw at brif gyflawniadau a phrofiadau gweithio mewn clwstwr yng Nghymru ar gael nawr.
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru wedi cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd newydd yn canolbwyntio ar bynciau iechyd meddwl. Byddwn yn rhannu crynodeb o newyddion a diweddariadau bob deufis i gydweithwyr a rhanddeiliaid i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith ym maes iechyd meddwl, atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae’n bleser gennym eich gwahodd i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar ddrafft Safonau Gwasanaethau Strôc Cenedlaethol GIG Cymru. Nod y safonau yw diffinio sut olwg sydd ar yr hyn sy’n dda ym mhob cam o'r llwybr strôc a darparu fframwaith cyson i gefnogi’r broses o wella gwasanaethau ledled Cymru.
Rydym yn awyddus i glywed gan bobl yng Nghymru am eu hymwybyddiaeth a'u profiadau o therapïau seicolegol digidol.
Bydd Rhwydwaith Ymchwil a Thystiolaeth Iechyd Meddwl Cymru yn dwyn ynghyd gweithwyr proffesiynol o amrywiaeth o arbenigeddau iechyd meddwl, yn ogystal â phobl â phrofiad bywyd, i greu cymuned a all ymateb yn gyflymach i'r heriau uniongyrchol y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, trwy gynhyrchu gwybodaeth a all ddylanwadu'n fwy effeithiol ar ymarfer. Ar ben hynny, bydd yn helpu i greu dealltwriaeth gyffredin o flaenoriaethau ymchwil ychwanegol i Gymru, o safbwynt yr holl randdeiliaid, ac fe fydd yn ysbrydoli gweithredu ar y cyd ynghylch sut y gellir mynd i'r afael â'r rhain.
Ym mis Rhagfyr 2022, cytunodd pob prif gwnstabl yng Nghymru a Lloegr i weithredu'r dull Gofal Cywir, y Person Cywir (RCRP). Y nod yw sicrhau bod unigolion ag anghenion iechyd neu ofal cymdeithasol yn derbyn cymorth gan weithwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n briodol yn hytrach na swyddogion heddlu, ac eithrio lle mae gan yr heddlu rôl ddiogelu statudol lle nodir risg uniongyrchol.
Mae meddygon teulu yng Nghymru yn cael eu hyfforddi i adnabod endometriosis yn gynharach fel rhan o'r gwaith parhaus i gyflawni'r camau gweithredu a nodir yng Nghynllun Iechyd Menywod Cymru.
Ar 1 Mehefin 2025, newidiodd Gweithrediaeth GIG Cymru ei enw i Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Mae gofal rhithwir a alluogir gan dechnoleg yn golygu bod gan gleifion ddewis bellach o ran sut y bydd eu gofal yn cael ei ddarparu.
Mae Rhaglen Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio GIG Cymru wedi partneru â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) i gyflwyno ymgyrch ar draws safleoedd adeiladu yng Nghymru sy'n codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac sy’n cyfeirio pobl at y gefnogaeth sydd ar gael iddynt. Y gobaith yw y bydd yr ymgyrch yn annog pobl i siarad am hunanladdiad ac iechyd meddwl, a lleihau stigma ac annog ceisio cymorth.
Mae Bwrdd y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu mecanwaith cydweithredol cryf ar gyfer cyfeirio a chyflawni amcanion yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rennir. Mae Perfformiad a Gwelliant GIG Cymru (a elwid gynt yn Weithrediaeth GIG Cymru), Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau iechyd arbennig, y Trydydd Sector a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector iechyd meddwl wedi'u cynrychioli ar y fforwm. Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi’r gweithgarwch allweddol a drafodwyd yng Nghyfarfod Bwrdd y Rhaglen ym mis Mai 2025.
Mae arweinwyr ar draws disgyblaethau digidol ac iechyd meddwl wedi cyfarfod fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ddigidol. Archwiliodd y Ford Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol botensial technolegau digidol wrth wella profiad a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a staff. Mae gan dechnolegau digidol botensial helaeth o ran mynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â mynediad at gymorth iechyd meddwl, y gweithlu a defnyddio data. Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r eMental Health International Collaborative, â rhanddeiliaid ynghyd yn cynrychioli profiad bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol, technolegau digidol, Llywodraeth Cymru, diwydiant a'r Trydydd Sector i archwilio cyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cydweithio.
Mae safbwyntiau cleifion, a phrofiadau a myfyrdodau clinigwyr sy’n darparu eu gofal, wedi’u defnyddio i nodi cryfderau a meysydd sydd angen eu gwella, wrth ddarparu gofal lwpws yng Nghymru.
Mae arweinwyr iechyd meddwl sy’n cynrychioli nifer o sectorau wedi cymryd rhan yng Nghyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru. Mae hyn wedi sefydlu mwy o gysylltedd ymhlith partneriaid a llywio dyfodol cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Fel rhan o Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru mae arweinwyr mewn amrywiol rolau, ac ar draws rhwydwaith amrywiol o randdeiliaid wedi cymryd rhan mewn cyfres o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a ddaeth i ben gyda chynhadledd yn Aberystwyth.
Mae Bwrdd Rhaglen y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu mecanwaith cydweithredol cryf ar gyfer cyfeirio a chyflawni amcanion yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rennir. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru (y Weithrediaeth), Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau iechyd arbennig, y trydydd sector a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector iechyd meddwl yn cael eu cynrychioli ar y fforwm. Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi’r gweithgarwch allweddol a drafodwyd yng Nghyfarfod y Bwrdd rhaglen ym mis Mawrth 2025.
Mae’r setiau data mwyaf o fesurau canlyniadau a phrofiad a adroddwyd gan gleifion (PROMs a PREMs) y mae Cymru erioed wedi’u gweld ar gael nawr.
Ymgasglodd tua 300 o bobl - yn cynrychioli sectorau gan gynnwys gofal iechyd, y llywodraeth, addysg, gwasanaethau brys, a'r Trydydd Sector - yng Nghaerdydd ar gyfer y Gynhadledd Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yr wythnos diwethaf. Daeth llawer o'r bobl a oedd yn bresennol hefyd â'u profiad bywyd eu hunain. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru, yn enghraifft wych o’r cynnydd sy’n cael ei wneud drwy waith amlasiantaethol a chydweithio yng Nghymru – gweithio tuag at weledigaeth a rennir i fynd i’r afael â stigma, lleihau marwolaethau drwy hunanladdiad, rhoi gwell cymorth i bobl sy’n hunan-niweidio, a chefnogi pobl sydd wedi cael profedigaeth oherwydd hunanladdiad.