Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn cynnig cyfle unigryw i arddangos arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch gwelliannau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a arweinir gan anghenion ym maes iechyd meddwl yng Nghymru. Mae cyflwyno poster yn gyfle i amlygu’n genedlaethol y gwaith gwella y mae eich tîm wedi’i wneud sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiad a chanlyniadau cleifion.
Fel rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, mae'r Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta wedi ymrwymo i ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Drwy gydweithio ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys GIG Cymru, y Trydydd Sector a phobl â phrofiad bywyd, blaenoriaeth y Rhwydwaith yw sicrhau bod pobl ag anhwylderau bwyta tybiedig yng Nghymru yn gallu cael cymorth prydlon.
Bydd rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ddydd Iau 6 Mawrth 2025. Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at y dull strategol cenedlaethol o atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn arddangos arferion gorau o bob rhan o Gymru, ac yn creu gofod i atgyfnerthu ymgysylltiad rhwng partneriaid.
Drwy gydol mis Mawrth 2025, mae cyfres o gyfnewidiadau gwybodaeth yn cael eu cynnal ledled y wlad fel rhan o ddigwyddiad Cyfnewid Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru. n ystod y digwyddiad, bydd arweinwyr yn dod at ei gilydd o bob rhan o’r system iechyd a gofal fel rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cefnogi rhannu gwybodaeth ac arloesi.
Mae Bwrdd Rhaglen y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu mecanwaith cydweithredol cryf ar gyfer cyfeirio a chyflawni amcanion yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rennir. Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi’r gweithgareddau allweddol a drafodwyd ym Mwrdd y Rhaglen ym mis Ionawr 2025.
Mae Hyb Hyfforddi Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed Cymru wedi’i gynllunio i ddarparu adnoddau a chyfleoedd datblygu a all wella ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a sgiliau.
Bydd gofal strôc yng Nghymru yn cael ei drawsnewid drwy gomisiynu technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol ledled y wlad, meddai arbenigwyr.
Mae adolygiadau i ddigwyddiadau sy’n ymwneud â diogelwch cleifion a amheuir o COVID-19 (nosocomiaidd) a gafwyd drwy ofal iechyd yn ystod dyfodiad y pandemig wedi cwblhau eu hymchwiliad cychwynnol, yn dilyn rhaglen genedlaethol o waith i gydlynu ymchwiliadau i’r nifer anarferol o uchel o ddigwyddiadau a gofnodwyd.