9 Gorfennaf 2025
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei gynnig gan gyfarwyddiaeth Trawsnewid Gwerth Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
Mae'r gyfarwyddiaeth yn gweithio gyda byrddau iechyd Cymru drwy ddod â'r dechnoleg monitro yn uniongyrchol i gartrefi pobl a'u cefnogi i sicrhau bod ganddyn nhw bopeth sydd ei angen arnynt i'w rhoi ar waith.
Mae gwasanaeth methiant y galon cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn mabwysiadu'r gwasanaeth monitro o bell cenedlaethol hwn ar gyfer ei gleifion.
Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth methiant y galon yn gweld tua 1000 o bobl. Mae eisiau defnyddio'r dechnoleg i wella canlyniadau i ddau grŵp gwahanol o gleifion Yn gyntaf, y cleifion hynny y gellir eu hoptimeiddio’n gyflym trwy driniaeth methiant y galon. Mae'r cleifion hyn yn gyffredinol yn fwy iach ac yn gweithio neu'n awyddus i fynd yn ôl i'r gwaith, er enghraifft. Yn ail, y cleifion hynny sydd ag anghenion mwy cymhleth ac sydd angen adolygiadau rheolaidd, i’w cadw'n byw yn dda yn y gymuned. Bydd y dechnoleg hon yn sicrhau eu bod yn cael gofal yn nes at y cartref ac mae'n bosibl y bydd yn eu galluogi i osgoi mynd i'r ysbyty yn ddiangen
Hayley Taylor yw nyrs arweiniol y gwasanaeth methiant y galon cymunedol BIP Bae Abertawe. Dywedodd hi: “Mae ein cleifion yn byw gyda salwch hirdymor sy’n gwaethygu, ac rydym wedi ymrwymo i’w cefnogi i gael yr ansawdd bywyd gorau posibl.
“Rydym eisiau lleihau derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi. Rydym eisiau lleihau ymweliadau diangen â chlinigau. Mae'r dechnoleg hon yn golygu y gallwn gefnogi cleifion, pan fo'n addas, i reoli eu cyflwr yn effeithiol gartref.”
“Mae'n ffordd wahanol o weithio.”
“Gall ein cleifion gysylltu â ni’n uniongyrchol drwy’r negeseuon digidol. Doedden nhw ddim yn gallu cysylltu â ni fel yna o'r blaen, heblaw am ddod i’n gweld ni wyneb yn wyneb.”
“Mae hi'r un mor bwysig bod gennym fynediad uniongyrchol at eu canlyniadau, sy'n golygu y gallwn wneud penderfyniadau gofal cyflymach ar sail mwy o wybodaeth.”
Dyna sut mae'r dechnoleg yn gweithio. Mae cleifion cymwys yn cael dyfais sgrin gyffwrdd, sydd ag ap hawdd i’w ddefnyddio wedi'i deilwra i'w cyflwr a'u hanghenion gofal. Mae'r ap yn cysylltu'n ddi-dor â dyfeisiau monitro sydd eto wedi'u teilwra i'w cyflwr. Byddai pobl sy'n byw gyda methiant y galon, yn cael dyfais ECG, clorian a monitor pwysedd gwaed.
Maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg yn eu cartrefi eu hunain. Bydd y dechnoleg yn anfon eu data yn ddiogel i ddangosfyrddau y gall clinigwyr eu cyrchu. Gallant ddefnyddio’r wybodaeth y maent yn ei chael i flaenoriaethu a gweithredu.
Dywedodd Hayley: “Mae llawer o’n cleifion wedi bod gyda ni ers tro ac wedi dod yn hyderus wrth reoli eu cyflwr.”
“Ond – heb fynediad at offer monitro o bell, fel monitor pwysedd gwaed neu glorian, mae cleifion yn aml yn dibynnu ar sylwi ar symptomau corfforol cyn ceisio cymorth.”
“Yn achos methiant y galon, gall dangosyddion clinigol fod yn bresennol yn llawer cynharach, cyn i gleifion ddod yn fwy symptomatig.”
“Mae darparu’r dechnoleg hon i gleifion, yn golygu y gallwn ganfod newidiadau cynnar yn eu data ac ymyrryd cyn i’r symptomau ddatblygu.”
“Bydd bod yn rhagweithiol fel hyn yn atal derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu hosgoi. Mae hefyd yn grymuso cleifion i gymryd rhan weithredol yn rheoli eu cyflwr.”
“Bydd hefyd yn gwella ansawdd eu bywyd. Gallant fynd ati i fyw eu bywydau bob dydd gan wybod bod eu hiechyd yn cael ei fonitro a'i gefnogi o bell.”
Yr Athro Chris Brown yw Cyfarwyddwr Cenedlaethol cyfarwyddiaeth Trawsnewid Gwerth Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Dywedodd: “Mae’r datrysiad uwch-dechnoleg ond personol hwn yn cadw pobl wedi’u cysylltu, wedi ymgysylltu ac mewn rheolaeth ac yn rhoi dewis i’n cleifion a’n timau gofal iechyd o ran sut y bydd gofal yn cael ei ddarparu.”
“Mae monitro o bell yn grymuso cleifion.”
“Mae’n rhoi’r offer sydd eu hangen arnynt i fonitro eu hiechyd ac maent yn gwybod bod GIG Cymru yn monitro eu llesiant yn ofalus.”
“Mae’r model gofal hwn yn adlewyrchu’r ffordd yr ydym yn byw mewn cymdeithas fodern ac mae technoleg ar ei gorau pan mae’n dod â phobl at ei gilydd.”
Gyda chefnogaeth Value Transformation, mae'r citiau a'r dechnoleg monitro o bell yn cael eu defnyddio mewn gwasanaethau eraill, nid dim ond yng ngwasanaeth methiant y galon. Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn defnyddio'r dechnoleg fel rhan o integreiddio gwasanaethau rhwng y tîm Gofal Brys yr Un Diwrnod a'r Hwb Llywio. Mae BIP Caerdydd a'r Fro yn defnyddio'r pecyn yn ei wasanaeth Diogel Gartref sydd wedi'i gynllunio i gefnogi mwy o gleifion i aros gartref neu adael yr ysbyty cyn gynted â phosibl.
I siarad â thîm Trawsnewid Gwerth Perfformiad a Gwella GIG Cymru am fonitro cleifion o bell, cysylltwch â nhw drwy anfon e-bost at: PGGIG.TrawsnewidGwerth@wales.nhs.uk